Pryderon am gerbyd arfog a gafodd ei gynhyrchu yng Nghymru
Mae ASau wedi cwestiynu a fydd cerbyd arfog Ajax y Fyddin, a gafodd ei weithgynhyrchu gan gwmni ym Merthyr Tudful, byth yn addas i’w ddefnyddio ar faes y gad.
Mae'r prosiect gwerth £6.3 biliwn wedi cael ei rwystro'n gyson gan bryderon am effaith sŵn a dirgryniad ar ei griw.
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi rhybuddio fod "disgwyliadau afrealistig" ynglŷn â sut y gallai milwyr weithredu’r cerbyd yn ddiogel mewn parth rhyfel.
Mae'r corff sy'n goruchwylio gwariant Tŷ’r Cyffredin hefyd wedi beirniadu'r oedi wrth i lywodraeth Syr Keir Starmer gyhoeddi ei Chynllun Buddsoddi mewn Amddiffyn, a oedd i fod i gael ei gyhoeddi’n wreiddiol y llynedd ond efallai na fydd yn ymddangos tan fis Gorffennaf bellach.
Roedd disgwyl i system Ajax, gan gwmni General Dynamics ym Merthyr Tudful, ddechrau gwasanaethu yn 2017, ond mae wedi wynebu sawl rhwystr oherwydd pryderon am ddiogelwch y criw.
Er i'r cerbyd gael y golau gwyrdd i weithredu ym mis Tachwedd y llynedd, bu'n rhaid atal sesiwn ymarfer o fewn wythnosau oherwydd bod milwyr wedi profi symptomau sy'n gysylltiedig â sŵn a dirgryniad.
Yn ei adroddiad, dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) wedi honni nad oedd "unrhyw bryderon diogelwch am Ajax cyn belled â’i fod yn cael ei weithredu a’i gynnal yn gywir o fewn paramedrau ei ddyluniad".
Mae'r pwyllgor yn dweud fod milwyr wedi cael cyfarwyddyd i gynnal gwiriadau cynnal a chadw bob tro y byddent yn stopio’r cerbyd, ond nad oedd y MoD "wedi egluro pa mor ymarferol yw hyn i filwyr sy’n gweithredu Ajax am gyfnodau hir wrth ymladd".
'Testun pryder'
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Syr Geoffrey Clifton-Brown: "Mae ein meddyliau gyda’r holl filwyr sydd wedi adrodd symptomau yn sgil sŵn a dirgryniad ar ôl gweithredu’r cerbydau hyn.
"Roeddem yn wirioneddol synnu o glywed swyddogion yn egluro bod defnyddio Ajax yn briodol yn gofyn am wiriadau cynnal a chadw bob tro y caiff ei stopio.
"Mae hyn yn sarhad ar ddeallusrwydd, ac ni fydd y cyngor hwn o fawr o werth i’n dynion a’n menywod sy’n gwasanaethu pe byddent yn cael eu galw i weithredu Ajax mewn ymladd. Mae'n rhaid i’r MoD nawr egluro sut y bydd yn gwneud Ajax yn addas at ei ddiben, a faint fydd hynny’n ei gostio."
Dywedodd y pwyllgor: "Mae’n parhau i fod yn destun pryder a yw’r cerbyd arfog Ajax yn addas at ei ddiben.
"Ni fydd cerbydau arfog sy’n anafu milwyr pan byddant yn cael eu gweithredu y tu allan i baramedrau llym o fawr o ddefnydd ar faes y gad modern.
"Mae'r adran wedi trafod pecyn posib o welliannau ‘Ajax 2’, ond mae perygl y bydd yn gorfod gwario hyd yn oed mwy nag a gynlluniwyd yn y gobaith o achub rhywbeth o raglen Ajax."
Mae’r cerbyd yn cael ei weithgynhyrchu gan gwmni General Dynamics ym Merthyr Tudful, ac mae ASau wedi mynnu cael gwybod faint y mae’r cwmni’n fodlon ei dalu am yr "oedi wrth ddarparu cerbyd sy’n addas at ei ddiben".
Dywedodd llefarydd ar ran y MoD fod Llywodraeth y DU yn darparu "cynnydd unwaith mewn cenhedlaeth" mewn gwariant amddiffyn, gyda £270 biliwn ychwanegol dros gyfnod y Senedd hon.
"Bydd y Cynllun Buddsoddi mewn Amddiffyn yn mynd i’r afael â’r rhaglen hen ffasiwn yr ydym wedi’i hetifeddu, sydd wedi’i gor-ymrwymo a’i thanariannu," meddai llefarydd ar ran yr adran.
"Rydym yn gweithio’n galed i’w gwblhau. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn wrth y Senedd yr wythnos hon, mae’r Prif Weinidog yn benderfynol o’i gyhoeddi cyn Uwchgynhadledd NATO."

