Darganfod corff wrth chwilio am berson wnaeth ddisgyn oddi ar long pleser ger yr Alban
Mae corff wedi cael ei ddarganfod ar ôl adroddiadau bod person wedi disgyn oddi ar fwrdd llong pleser ger arfordir yr Alban.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod adroddiadau bod dyn wedi disgyn oddi ar fwrdd llong pleser Ambition tua 36 milltir forwrol oddi ar Arbroath am tua 08:35 fore Gwener.
Mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ddarganfod.
Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae'r heddlu wedi dweud bod teulu'r dyn oedd ar goll wedi cael gwybod.
Dywedodd Ambassador Cruise Line, y cwmni oedd yn gweithredu'r llong, fod y llong yn teithio o Lerwick i Dundee pan nad oedd modd dod o hyd i westai ar ei bwrdd.
Roedd y llong wedi docio yn Dundee ac roedd y gwesteion i gyd yn gallu gadael y llong ar ôl i archwiliadau gael eu cynnal i geisio dod o hyd i'r dyn.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Alban: "Tua 08:55 ddydd Gwener 21 Awst roeddem wedi derbyn adroddiad fod dyn wedi disgyn oddi ar fwrdd llong pleser ym Môr y Gogledd, tua 40 milltir forwrol o Anstruther, Fife.
"Cafodd ymgyrch chwilio ac achub ei lansio a'i chynnal gan yr heddlu ac asiantaethau eraill, ac mae corff wedi cael ei ddarganfod."
Mae Ambassador Cruise Line yn dweud eu bod yn gweithio gyda'r awdurdodau wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd llefarydd ar ran Ambassador Cruise Line yn gynharach: “Mae Ambassador yn dilyn protocolau chwilio ac achub llym yn unol â safonau diogelwch morwrol rhyngwladol.
“Rydym yn parhau i weithio'n agos â’r Ganolfan Cydlynu Achub Morwrol, yr Asiantaeth Forwrol, Gwylwyr y Glannau a Heddlu’r Alban wrth i’r ymchwiliad barhau.
“Mae Ambassador yn parhau i ymrwymo i ddiogelwch a lles ein holl westeion a’n criw.”