Darganfod corff dyn ifanc mewn afon yn Amwythig

Afon Hafren, Amwythig

Mae corff dyn 22 oed wedi ei ddarganfod mewn afon yn Amwythig, ar ôl adroddiadau iddo fynd i drafferthion yn ystod y gwres eithafol.

Y gred yw mai fe yw'r pedwerydd person i farw yn y Deyrnas Unedig, ar ôl mynd i'r dŵr yn ystod y tywydd eithriadol o boeth diweddar.   

Mae'r ardal o amgylch glannau'r afon wedi ail agor ddydd Sadwrn wrth i'r gwaith chwilio ddod i ben. 

Mae'n debyg i Mr Leach fynd i drafferthion yn yr afon ddydd Gwener.  

Yn y cyfamser, mae plismyn a oedd yn chwilio am fachgen 15 oed a gafodd ei weld ddiwethaf ar bwys llynnoedd ger Southamton bellach wedi dod o hyd i gorff.

Dywedodd Heddlu Hampshire bod teulu'r bachgen yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.  

Ac mae Heddlu Essex wedi cadarnhau bod dyn 69 oed wedi marw ar ôl iddo fynd i drafferthion yn y môr yn Clacton.

Ddydd Mercher, cafodd corff dyn 50 oed ei ddarganfod ar draeth Aberafan ger Port Talbot, ar ôl iddo fynd i drafferthion tra'n nofio yn y môr. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r traeth am 16.25 wedi adroddiadau bod dyn angen cymorth.

Cafodd Gwylwyr y Glannau, yr Ambiwlans Awyr a pharafeddygon eu hanfon yno.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, roedd y dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi marw yn y fan a'r lle.

Yn ystod y tywydd poeth fis Mai eleni, bu farw o leiaf 15 o bobl yn y Deyrnas Unedig, y mwyafrif yn blant, tra'n nofio mewn dŵr agored.   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.