Darganfod corff dyn aeth ar goll o draeth ger Pwllheli yn Aberystwyth
Mae corff dyn a aeth ar goll ar ôl mynd i draeth ym Mhwllheli wedi cael ei ddarganfod yn Aberystwyth.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i'r traeth yn Aberystwyth am 12:30 ddydd Sul.
Fe gafodd y corff ei adnabod fel Connor Parfitt, un o'r dynion a aeth ar goll ar ôl mynd i draeth wrth ymyl gwersyll Hafan y Môr, Pwllheli, yng Ngwynedd, gyda caiacs aer am 18:30 brynhawn dydd Mawrth diwethaf.
Mae ei deulu a'r crwner wedi cael gwybod.
Mae ail ddyn, Simon Wilson, yn dal i fod ar goll ac mae swyddogion yn parhau i gefnogi ei deulu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu'r Gogledd fod y llu'n parhau i apelio am wybodaeth i helpu i ddod o hyd i Mr Wilson.
"Mae fy meddyliau yn parhau gyda theuluoedd Connor a Simon yn ystod y cyfnod hynod anodd yma.
"Nid dyma'r canlyniad roeddem yn gobeithio amdano, gan gynnwys y timau oedd yn rhan o'r chwilio.
"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid, gwirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd a wnaeth gynnig cymorth dros y chwe diwrnod diwethaf.
"Rydym yn parhau i apelio am unrhyw wybodaeth neu i unrhyw un sydd wedi gweld Simon, i gysylltu â ni a dyfynnu'r cyfeirnod O120829."
