'Dan ni 'di bod yn lwcus iawn': Diwedd cyfnod ar Ynys Enlli
'Dan ni 'di bod yn lwcus iawn': Diwedd cyfnod ar Ynys Enlli
Mae hi'n ddiwedd cyfnod ar Ynys Enlli wrth i Gareth a Meriel Roberts, sydd wedi bod yn ffermio yno ers blynyddoedd, ddychwelyd i'r tir mawr.
Yn gymuned Gymraeg oddi ar arfordir gogledd orllewin Cymru, mae Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Noddfa Awyr Dywyll.
Mae Gareth Roberts wedi bod yn ymweld â'r ynys ers 1973 ac wedi dal y tenantiaeth ar gyfer Cwrt ger Aberdaron ers 30 mlynedd.
Gyda'i wraig Meriel, mae'r ddau wedi bod yn denantiaid ffermio yn Enlli am 20 mlynedd,
Ond ddydd Sul, fe ddaeth yr amser i ffarwelio â'r ynys.
"Mae o'n ryw deimlad cymysglyd dydy," meddai Gareth wrth Newyddion S4C.
"Da ni 'di gwneud y penderfyniad do, so ma hwnnw wedi neud, pan mae'n dod i'r nitty gritty bod chi'n actually mynd, mae o'n beth bach gwahanol, dydy? Ond dyna fo, ein cyfnod ni 'di dod i ben.
"Oed yn dal i fyny, so be nawn ni, 'de?"
Fe fydd gan y ddau hiraeth am sawl peth.
"Be 'dan ni am fethu fwya? Wel, y lle, y bobl, ffordd o fyw," meddai Gareth.
"Ia, ma 'na le braf 'ma does, bendigedig. Mae pawb yn cael eu cyfnod, dydy, da ni 'di cael ein cyfnod, da ni 'di bod yn lwcus iawn.
"Dydi pawb ddim wedi bod mor lwcus â ni i gael bod yma, so rhaid i ni fod yn ddiolchgar am hynny."
Georgina Rannard a Gwyndaf Hughes o Gaerdydd fydd y ffermwyr newydd yn dilyn proses recriwtio ddiweddar, ac fe fydd y ddau yn gofalu am ddefaid a gwartheg yr ynys.
Fe dreuliodd Georgina a Gwyndfaf amser ar Enlli yn y gwanwyn yn ystod tymor wyna, ac mae Gareth yn hyderus ei fod yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i ddwylo diogel.
"Mae o'n gyfnod cyffrous iawn i Gwyndaf a Georgina. Dw i beth bynnag yn teimlo bod nhw'n lwcus iawn, a dw i'n meddwl bod nhw'n cytuno felly," meddai.
"'Dan ni 'di bod yn ffodus ddifrifol o gael bod yn rhan o hanes y lle yma. Wedyn, eu cyfnod nhw 'di rwan, mae'r byd yn symud yn ei flaen, mae'r olwyn yn troi.
"Wedyn, ma' nhw'n mynd i gael cyfle i brofi be da ni 'di neud mewn ffordd, a dw i'n gobeithio byddan nhw'n hapus iawn yma."

