Dadorchuddio plac er cof am aelod 'ymroddedig' o griw bad achub ym Môn
Mae seremoni wedi’i chynnal ym Môn ddydd Sul i ddadorchuddio plac er cof am ddyn a wirfoddolodd gyda gwasanaeth bad achub lleol am ddegawdau.
Bu farw Alan Owen yn yr ysbyty ym mis Awst 2023 yn 50 oed wedi iddo fynd yn sâl yn annisgwyl yn ei gartref, ar ôl gwasanaethu Bad Achub Moelfre am 34 mlynedd mewn sawl rôl.
Ddydd Sul daeth teulu, ffrindiau ac aelodau criw y bad achub at ei gilydd ar gyfer seremoni arbennig i ddadorchuddio plac er cof amdano.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng Ngorsaf Bad Achub Moelfre, lle dadorchuddiodd mam Alan, Helen, y plac.
“Mae’n coffáu bywyd Alan a’i 34 mlynedd o wasanaeth ymroddedig i’r orsaf a’r gymuned leol,” meddai llefarydd ar ran criw y bad achub.
Siaradodd y Llywiwr Vince Jones a’r Awdurdod Lansio Ieuan Williams er cof amdano.
Fis Rhagfyr y llynedd cafodd stryd ar Ynys Môn ei henwi er cof am Alan, a gafodd ei ddisgrifio fel aelod “ymroddgar” o’r bad achub.
Mae’r stryd sy’n arwain at Fad Achub Moelfre wedi’i henwi yn ‘Lôn Cocsyn Alan Owen.’
Wrth roi teyrnged iddo ar ôl ei farwolaeth yn 2023, dywedodd Bad Achub Moelfre: “Fel criw a chymuned, rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at bartner Alan, Mags, ei fam, Helen, Magic, ei gi, a'i deulu a'i ffrindiau estynedig.
“Alan, Al… Ein capten, ein harweinydd, ein ffrind – byddwn yn gweld dy eisiau am byth.
"Rydym ni i gyd yn diolch i ti ac yn dymuno dim byd heblaw gwyntoedd teg a moroedd tawel.”

