Dadorchuddio cerflun o Rhodri Morgan ym Mae Caerdydd
Bydd cerflun efydd o gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn cael ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd ddydd Iau.
Bydd y cerflun, sydd y tu allan i Adeilad y Pierhead, yn dangos y cyn-arweinydd mewn dillad bob dydd (casual) fel teyrnged i’w arddull wleidyddol "ddi-flewyn-ar-dafod".
Rhodri Morgan oedd y person cyntaf i ddal y teitl Prif Weinidog Cymru.
Fe wnaeth wasanaethu yn swydd wleidyddol uchaf Cymru rhwng 2000 a 2009, ac mae’n cael ei ddisgrifio gan lawer fel 'tad datganoli'.
Cafodd ei ethol yn AS yn 1987 cyn cael ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, yn 1999. Bu farw yn 2017.
Bydd y cerflun yn cael ei ddadorchuddio y tu allan i Adeilad y Pierhead am hanner dydd ddydd Iau, 9 Gorffennaf.
Bydd Julie Morgan, gweddw Rhodri Morgan, ac aelodau’r Ymddiriedolaeth yn bresennol yn y digwyddiad.
‘Dyn o’r bobl’
Mae’r cerflun wedi ei greu gan yr artist Andy Edwards, sydd â gwreiddiau Cymreig.
Mae wedi creu mwy na 50 o gerfluniau efydd, gan gynnwys cerflun o’r Beatles yn cerdded ar hyd glannau Lerpwl, cerflun o Lemmy o’r band Motörhead, a chofeb i’r milwyr a chwaraeodd bêl-droed ar draws llinellau’r gelyn ar Ddydd Nadolig yn 1914.
Cafodd y cerflun o Rhodri Morgan ei gwblhau yn Castell Fine Arts Foundry yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys.
Dechreuodd grŵp o ffrindiau a chefnogwyr godi arian ar gyfer y cerflun ym mis Hydref 2018.
Dywedodd Dilwar Ali, aelod o grŵp sefydlu elusen Ymddiriedolaeth Rhodri Morgan: “Rydym mor falch bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth a bod y cerflun ar gyfer ‘tad datganoli’, fel y cyfeirir ato weithiau, o flaen y Senedd lle treuliodd gymaint o flynyddoedd yn gweithio dros bobl Cymru.
“Roedd yn ddyn o’r bobl a bydd ei gerflun yn ychwanegu at olygfa strydoedd y Bae lle mae cymaint o ymwelwyr yn mynd heibio. Mae’r ffaith nad yw’n cael ei roi ar blinth yn fwriadol - bydd ar y ddaear, ac rydym yn siŵr y byddai wedi bod wrth ei fodd â hynny.
“Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi eu cefnogaeth i’r cerflun ac i’r nifer sydd wedi helpu i godi arian a chyfrannu dros y blynyddoedd, yn enwedig aelodau o’r gymuned ethnig ddu a lleiafrifol a phrifysgolion yng Nghymru.”
