Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc

Cadair a Choron Eisteddfod YFFC

Cafodd Cadair a Choron Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael eu dadorchuddio mewn digwyddiad arbennig yn Aberystwyth nos Fawrth.

Chwe chrefftwr ifanc, sydd yn aelodau neu'n gyn-aelodau o'r mudiad, sydd wedi bod yn gyfrifol am greu'r Gadair, y Goron a'r gwobrau ar gyfer yr Eisteddfod, fydd yn cael ei chynnal yng Ngheredigion eleni.

Cafodd y gwobrau eu dadorchuddio yn Llyfrgell y Dref yn Aberystwyth, cyn yr Eisteddfod fydd yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid, ar 21 Tachwedd.

Mae'r gwobrau i gyd wedi'u hysbrydoli gan dirwedd Ceredigion, gyda'r môr a'r mynyddoedd yn ganolog i'r dyluniadau, meddai'r mudiad.

Yr efeilliaid Bleddyn ac Owain Thomas, sy'n rhedeg cwmni adeiladu Brodyr Thomas yng Nghribyn, sydd wedi creu'r Gadair eleni.

Mae'r Gadair wedi'i gwneud o bren derw, gyda'i chefn yn cynnwys elfennau sy'n cynrychioli Bwa Ystrad Fflur a chwysi'r aradr, yn ogystal â thema cystadleuaeth y Gadair eleni, sef 'Bwlch' neu 'Bylchau'.

Dywedodd y brodyr, sy'n aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Felinfach, ei bod yn "anrhydedd fawr" cael creu'r Gadair.

"Mae wedi bod yn dipyn o brofiad ac yn anrhydedd fawr i ni gael gweithio Gadair Eisteddfod CFfI Cymru eleni.

"Llai na 10 mlynedd nôl ro'n ni wrthi yn Rali'r Sir yn gweithio mainc allan o balets - â ninnau dal yn aelodau o'r Mudiad roedd hi'n braf cael y cyfle i greu rhywbeth ry'n ni'n gobeithio y bydd rhywun yn falch iawn ohoni."

Y goron

Yn y cyfamser, Dylan ac Elen Bowen, gŵr a gwraig sy'n rhedeg busnes Gemwaith Bowen yn ardal Castell Newydd Emlyn, sydd wedi creu'r Goron.

Mae'r dyluniad wedi'i ysbrydoli gan donnau Bae Ceredigion, gyda band aur yn cynrychioli traethau'r sir.

Defnyddiodd y ddau ddŵr halen o Fae Ceredigion i greu effaith las naturiol ar y copr, gyda'r tonnau wedi'u plygu â llaw.

Mae'r ddau yn creu'r goron 10 mlynedd ers i'w gŵr greu ei goron gyntaf ar gyfer yr eisteddfod.

"Mae pob coron yn dipyn o anrhydedd ac rydyn ni'n joio'r her o ddylunio a chreu rhywbeth gwahanol bob tro," meddai Elen,

Dion Evans o Glwb Pontsian a Gethin Morgans o Glwb Llanwenog sydd wedi creu gwobrau'r cystadlaethau eraill.

Mae'r gwobrau pren derw wedi'u hysbrydoli gan siâp Ceredigion, gyda phob un yn unigryw.

Mae carthenni Cymreig hefyd yn rhan ganolog o'r dyluniadau, wedi'u gwehyddu yn Amgueddfa Wlân Cymru ar beiriant newydd i nodi 50 mlynedd ers sefydlu'r amgueddfa.

Bydd y Gadair yn cael ei chyflwyno am y gerdd orau yn yr Eisteddfod, a'r Goron am y darn gorau o ryddiaith, gyda'r gwobrau eraill yn cael eu cyflwyno i enillwyr y cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.