Cytundeb heddwch rhwng America ac Iran yn agos medd Donald Trump
Mae'n bosib y gallai cytundeb heddwch gael ei arwyddo rhwng Iran a'r Unol Daleithiau yn ystod yr oriau nesaf.
Dywedodd Donald Trump mewn neges ddydd Sadwrn fod cytundeb yn agos - er mai nid dyma'r tro cyntaf iddo ddweud hynny.
Mewn neges ar ei blatfform cymdeithasol Truth Social, dywedodd yr arlywydd:
“Mae’r cytundeb i fod i gael ei lofnodi yfory, ac yn syth ar ôl iddo gael ei lofnodi, mae Culfor Hormuz AR AGOR I BAWB.”
Awgrymodd Mr Trump hefyd y bydd yr Unol Daleithiau yn gweithio gydag Iran i gael gwared ar wraniwm o’r wlad ond nid oedd unrhyw fanylion pellach am hynny.
“Ar yr amser priodol, pan fydd popeth yn dawel, byddwn yn mynd i mewn ac yn cael y Llwch Niwclear, sydd wedi’i gladdu’n ddwfn o dan y mynyddoedd gwenithfaen cadarn,” meddai.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Iran, a’r Dwyrain Canol cyfan, ymhell i’r dyfodol,” ychwanegodd.
Dyna oedd awgrym neges gan brif weinidog Pacistan, Shehbaz Sharif, ddydd Sadwrn hefyd, wrth i'w wlad chwarae rhan ganolog yn y trafodaethau.
Mae'r awdurdodau yn Islamabad yn gweithio'n agos gyda'r ddwy ochr er mwyn ceisio dod â'r cytundeb i fwcl.
Yn ôl adroddiadau fe allai Shehbaz Sharif deithio i Genefa yn y Swistir er mwyn bod yn llygad-dyst i'r broses o arwyddo'r cytundeb heddwch.
Yn ei neges, dywedodd prif weinidog Pacistan: "Rydym yn agosach at gytundeb heddwch nag erioed o'r blaen.
"Gyda disgwyl i'r cytundeb gael ei gwblhau yn ystod y 24 awr nesaf, mae Pacistan yn paratoi ar gyfer llofnodi'r cytundeb heddwch yn electronig yn syth wedi hynny, ac yna trafodaethau technegol yr wythnos nesaf.
"Hoffem ddiolch i Unol Daleithiau America a Gweriniaeth Islamaidd Iran am eu hymrwymiad parhaus yn ystod y trafodaethau, ac rydym yn estyn ein gwerthfawrogiad diffuant i'n brodyr yn y rhanbarth am eu cefnogaeth.
"Rydym yn hyderus y bydd y cytundeb heddwch hanesyddol hwn yn ffurfio sylfaen gref ar gyfer heddwch parhaol."
Yn ôl ffynonellau yn y Tŷ Gwyn, er nad yw union eiriad y cytundeb heddwch yn ei le eto, mae hynny'n agos iawn at ddigwydd.
Y gred yw y byddai'r cytundeb heddwch yn arwain at ailagor Culfor Hormuz i longau, gyda lluoedd yr UDA yn dod a'u blocâd o borthladdoedd Iran i ben.
Dywedodd Gweinidog Tramor Iran, Seyed Abbas Araghchi, fod cytundeb gyda'r Unol Daleithiau yn agos, ond na fyddai'n cynnwys trafodaethau am gynlluniau ei wlad i ddatblygu arfau niwclear am y tro.

