Cynyddu isafbris alcohol i 'achub bywydau' yng Nghymru
Fe fydd isafswm pris uned o alcohol yng Nghymru yn cynyddu o 50c i 65c o ddydd Iau ymlaen, gyda'r nod o achub "cannoedd o fywydau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newid ar ddydd cyntaf mis Hydref wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau.
Mae arbenigwyr o'r farn y gallai'r cynnydd mewn pris atal mwy na 900 o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn ogystal â helpu bron i 5,000 o bobl yng Nghymru i leihau yfed mewn modd niweidiol dros yr 20 mlynedd nesaf.
Fe fydd yr isafswm pris newydd gywerth â'r isafswm pris yn Yr Alban.
Targedu'r diodydd 'rhataf a chryfaf'
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru yr elusen Alcohol Change UK, Andrew Misell, mai'r diodydd rhataf a chryfaf yw'r rhai "sy'n aml yn achosi'r niwed mwyaf".
"Mi fydd yr isafbris newydd hwn o 65c yn cadw poteli mawr o seidr cryf iawn oddi ar y silffoedd, a hefyd yn ei gwneud hi’n anoddach i archfarchnadoedd gynnig gostyngiadau swmp," meddai.
Roedd tystiolaeth o gyfres o werthusiadau annibynnol ac adroddiad effaith yn 2025 hefyd yn nodi bod chwyddiant wedi effeithio ar y gyfradd 50c cyfredol.
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod isafbris uned alcohol yn un o nifer o gamau sy'n cael eu cymryd i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau iechyd.
Mae dros £68 miliwn yn cael ei fuddsoddi i helpu'r rheini sy'n cael eu heffeithio gan ddefnydd o alcohol a chyffuriau, meddai.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans:
“Mae pob un o’r cannoedd o fywydau y gallai’r newid hwn ei achub yn rhiant, yn bartner neu’n blentyn i rywun.
“Mae tystiolaeth yn dangos bod cyflwyno isafbris uned am alcohol wedi gwneud cyfraniad pwysig o ran mynd i’r afael â’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â goryfed alcohol," meddai.
"Ond ry'n ni hefyd yn gwybod bod chwyddiant wedi gwneud yr isafbris o 50c yn llai effeithiol, felly dyw ei godi i 65c ddim yn ymwneud â chosbi pobl sy'n yfed yn gyfrifol.
"Mae'n golygu cau'r bwlch hwnnw a gwneud yn siŵr bod yr isafbris uned yn parhau i wneud ei waith drwy gadw alcohol cryf, rhad iawn oddi ar y silffoedd.”