Cynnal gig yng Nghlwb Ifor Bach 'er mwyn codi llais yn erbyn trais'

Llais yn Erbyn Trais

Fe fydd gig yn cael ei chynnal yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd nos Wener er mwyn codi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn menywod.

Mae’r noson yn cael ei chynnal gan y grŵp Llais yn Erbyn Trais, er mwyn codi arian tuag at elusennau sy’n cefnogi goroeswyr camdrin rhywiol a domestig.

Mae Manon Parry yn un o sylfaenwyr y grŵp yn y brifddinas. Dywedodd hi wrth Newyddion S4C mai eu bwriad yw cynnal digwyddiad “lle ma' menywod neu dynion neu unrhywun yn gallu dod i joio cerddoriaeth yn Caerdydd heb teimlo’n anghyfforddus".

“Ma fe'n opsiwn i potential sexual assault survivors dod a joio'r noson heb poeni," meddai.

“Fi'n meddwl fod o'n rili anodd i menywod fod ar y foment ma, yn enwedig os chi'n fyfyriwr neu person ifanc yng Nghaerdydd neu mewn dinas.”

Soniodd hefyd am enghreifftiau o ymddygiad amhriodol, gan gynnwys sbeicio diodydd a chael sylwadau rhywiol annymunol.

“Yn anffodus, ma hwn yn digwydd yn eitha aml, yn enwedig yn y music scene a on ni isie neud rhywbeth specific gyda cerddoriaeth a gigs achos ni'n ffans o cerddoriaeth a miwsig so dyna'r pwrpas rili o'r digwyddiadau," meddai.

Fe gyfeiriodd Manon at ffigurau gan Rape Crisis England and Wales sy’n nodi bod un o bob pedair menyw wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol ers troi’n 16 oed.

“Ni'n teimlo fel bod angen rhywbeth cael ei neud. Mae'r stats jyst yn mynd lan a fi'n meddwl. Mae fe'n rili bwysig nawr mwy na byth o'r blaen i ddod at ein gilydd a fel ymladd yn erbyn hwn.”

Image
Poster Llais yn Erbyn Trais
Cafodd y grwp ei sefydlu yn 2023 yn sgil pryder cynyddol am drais yn erbyn menywod

Gig i godi arian

Dyma’r trydydd digwyddiad i Llais yn Erbyn Trais eu cynnal ers iddo gael ei sefydlu yn 2023 gan Manon Parry, Ceridwen Eirlys, Saskia Peters, Minnie Rae, Mali Cain a Morgan Cai.

Cafodd y grŵp ei sefydlu yn sgil pryder cynyddol am drais yn erbyn menywod, gan gynnwys achosion difrifol a gafodd sylw yn y cyfryngau, yn ogystal ag ymddygiad amhriodol mewn lleoliadau cerddorol.

Bydd bandiau Bramwell a Hyll yn perfformio yn ystod y noson a chyfle i godi arian ar gyfer Calan DVS a Chin Up Cardiff.

Yn ôl Gruffydd Parry, sy’n chwarae gitâr ac yn canu gyda Hyll, fe wrthododd y band y gwahoddiad i berfformio yn y gorffennol gan ofni y byddai cael band o bedwar o ddynion mewn digwyddiad fel hyn yn “danfon y neges anghywir".

“Y flwyddyn yma, maen nhw di gofyn eto, ni jyst kind of wedi trio fflipo fe ar ei ben a meddwl actually, ma hyn yn ffordd rili da o supportio’r achos yma," meddai.

“Mae'n dangos bod dynion ifanc yn supportive yn peth rili da.”

Dywedodd Gruff hefyd bod hi’n haws iddyn nhw gyfleu neges drwy gerddoriaeth.

“Dwi'n meddwl achos ni'n band mae pethau bach mwy agored a creadigol mewn cerddoriaeth, ni efo cwpl o caneuon sy'n cynnwys touchio ar y subject so, dwi’n meddwl bod e ddim yn rhywbeth ni'n cuddio o," meddai.

Cefnogi goroeswyr

Image
Gemwaith yn nigwyddiad Llais yn erbyn Trais
Bydd stondinau yn rhan o'r digwyddiad er mwyn codi arian at yr elusenau

Mae Chin Up Cardiff yn grŵp cefnogaeth cymunedol ar gyfer goroeswyr trais rhywiol, sy’n cynnal sesiynau misol am ddim, gan gynnwys gweithgareddau creadigol, teithiau cerdded natur a sesiynau lles er mwyn lleihau unigrwydd a chreu cymuned.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd fod yr arian sy’n cael ei godi yn hanfodol i waith y sefydliad.

“Mae’r elusen wedi bod yn rhedeg ers dros ddwy flynedd ac yn dibynnu ar gyllid torfol. Mae pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth mawr," meddai.

“Mae’r arian yn mynd tuag at gostau fel sesiynau, yswiriant a hyfforddiant, gan ein galluogi i barhau i gynnig gwasanaethau am ddim i bawb.”

Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth i bobl sy’n aros am gymorth clinigol, heb rwystrau ariannol.

Dywedodd y sefydliad hefyd fod trais rhywiol mewn lleoliadau nos yn parhau i fod yn broblem ddifrifol, gyda rhai ymddygiadau fel cyffwrdd digroeso neu bwysau ar unigolion yn cael eu normaleiddio.

Pwysleisiodd y llefarydd mai’r troseddwr sydd ar fai bob amser, gan alw am fwy o ymwybyddiaeth, hyfforddiant a diwylliant sy’n herio agweddau niweidiol er mwyn creu mannau mwy diogel i bawb.

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd Manon Parry y bydd yna awyrgylch gefnogol yn ystod y digwyddiad ac y bydd hi’n “teimlo’n browd a teimlo’n dda” o weld pobl yn dod at ei gilydd.

Dywedodd hi bod enw’r grŵp yn ychwanegu at ymdeimlad y noson.

“Llais yn Erbyn Trais – ma fe’n powerful, ie, we’re taking back this space," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.