Cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon yng Ngwynedd

08/04/2026

Cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon yng Ngwynedd

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon yng Ngwynedd ddydd Mawrth. 

Dywedodd y llu eu bod wedi gweithredu gwarant o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn y plasty, a bod planhigion wedi eu darganfod mewn 12 o ystafelloedd yn yr adeilad.

Roedd 'tyfiant canabis sylweddol' wedi ei ddarganfod yno, ac fe fydd swyddogion yn parhau i fod yn bresennol yn y lleoliad am rai dyddiau tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Mae'r llu yn gofyn i'r cyhoedd gadw draw o'r lleoliad tan y bydd yr ymholiadau ar ben. 

Cafodd ymgyrch codi arian ei lansio y llynedd i dalu am waith i adnewyddu'r plas hanesyddol.

Fe wnaeth cwmni er budd cymunedol ei sefydlu er mwyn "ymgymryd â'r dasg enfawr o ddod â bywyd yn ôl i Blas Glynllifon".

Mae Plas Glynllifon wedi bod yn nwylo nifer o ddatblygwyr sydd wedi ceisio adfywio'r adeilad sylweddol dros y blynyddoedd.

Cafodd ei brynu gan Paul a Rowena Williams yn 2016 gyda'r gobaith o droi'r plasty yn westy moethus, ond fe aeth y busnes hwnnw i'r wal yn 2020.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.