Cynnal cynhadledd yn Llanelli i godi ymwybyddiaeth am seiberddiogelwch

Newyddion S4C
Cynhadledd Llanelli

Cafodd bygythiad deallusrwydd artiffisial ei drafod mewn cynhadledd yn Llanelli i godi ymwybyddiaeth am seiberddiogelwch.

Daw hyn wrth i'r Brenin Charles rybuddio am beryglon deallusrwydd artiffisial mewn araith yn yr Alban.

Mewn uwchgynhadledd yn Ayrshire, i drafod budd posib y dechnoleg i gymdeithas, dywedodd y Brenin Charles y gallai AI "syrthio i ddwylo" pobl fyddai'n ei ddefnyddio i fygwth dyfodol dynol ryw.

Fe ddaw'r rhybudd ar ôl i bennaeth AI cwmni Microsoft, Mustafa Suleyman, ddweud wrth y BBC fod yna berygl o "greu technoleg newydd nad oedd modd ei reoli" a bod angen mesurau digonol i atal ei gamddefnydd.

Cafodd cynhadledd ei gynnal yn Llanelli i godi ymwybyddiaeth am seiberddiogelwch.

Fe drefnwyd y digwyddiad ar y cyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, i rybuddio busnesau a sefydliadau am fygythiadau seiber a sut i baratoi ar gyfer ymosodiadau posib.

Dywedodd Dafydd Llywelyn wrth Newyddion S4C y bydd nifer o fusnesau yn wynebu'r bygythiad o droseddu seiber wrth i feddalwedd deallusrwydd artiffisial gael ei defnyddio er mwyn eu targedu ac ei fod yn "bryderus" am effaith y dechnoleg.

"Mae e'n fygythiad i fusnesau yma yng nghefn gwlad, yn y gorllewin a'r canolbarth, yn yr un modd â mae'n fygythiad yn y dinasoedd ac mae angen i fusnesau fod yn barod i ymateb," meddai. 

"Efallai bod hi'n gwestiwn o pryd byddan nhw yn cael eu targedu yn hytrach na sut. Mae'r gynhadledd ynglyn â sut i roi'r sgiliau i fusnesau sut i ddiogelu eu gwaith nhw.

"Mae AI yn ymateb tipyn cyflymach ac yn newid y ffordd o dargedu busnesau o ddydd i ddydd. Ni'n gweld bod y targedu yma yn digwydd yn amlach ac yn mynd yn fwy cymhleth. Dw i yn bryderus am y bygythiad a dw i yn deall bod y bygythiad yn mynd yn fwy cymhleth a fod angen i fusnesau ddeall y bygythiad hynny. Mae angen i bobl ddeffro i'r bygythiad yma sydd yn un cynyddol."

Image
Dafydd
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn

Mae'n cytuno bod angen cyfyngiadau ar y dechnoleg.

"Dw i yn cefnogi'r alwad i arafu rhywfaint. Mae'n bwysig iawn cael deddfwriaeth mewn lle i gyfyngu ar ddatblygiadau sydd yn digwydd mor gyflym am AI," meddai. 

Un o'r rhai oedd yn annerch y gynhadledd oedd y Ditectif Arolygydd Paul Hall, Pennaeth Canolfan Seibrwydnwch Cymru. Dywedodd bod deallusrwydd artiffisial yn gwneud hi'n haws i droseddwyr i gyflawni troseddau seiber.

 "10 mlynedd nol, fe fyddai rhywun â sgiliau helaeth yn gyfrifol am y troseddu hyn. Yn sgil datblygiad deallusrwydd artiffisial, mae troseddwyr yn prynu meddalwedd ar y we dywyll sydd yn caniatau i bobl, sydd â llai o sgiliau i hacio mewn i sefydliadau trwy ddefnyddio teclynnau AI," meddai.

Image
Ditectif Arolygydd Paul Hall.jpg

Dywedodd bod hi'n hollbwysig bod aelodau staff yn dewis cyfrineiriau diogel, dilysu aml-ffactor a bod yna gynllun argyfwng wrth gefn gan fusnesau os oedd yna ymosodiad seiber.

Dangosodd arolwg diweddar gan Lywodraeth y DU bod dros 600,000 wedi dioddef ymosodiad seiber o ryw fath yn ystod 2025/26.

Cafodd busnes cwmni cynhyrchu, James Owen, Stori Cymru o Lanelli, ei dargedu gan feddalwedd wystlo neu ransomware o'r enw Deadbolt rai blynyddoedd yn ôl.

Image
James Owen o gwmni cynhyrchu Stori Cymru
James Owen o gwmni cynhyrchu Stori Cymru

Cafodd yr holl ffeiliau ar ei gyfrifiadur eu cloi gan droseddwyr, a bu'n rhaid iddo dalu tua £1,000 er mwyn cael y data yn ôl, er nad yw yr heddlu yn cynghori pobl i wneud hynny.

"Roedd data pob cwsmer fi o ran creu ffilmiau, er mwyn hyrwyddo eu gwasanaethau ar y server. Doedd dim mynediad o gwbl 'da fi am y data. O ni'n becso yn ofnadwy," meddai.

"Ffili cysgu a doeddwn i methu gorffen prosiectau gan bod y data wedi cael ei effeithio. Roedd e'n ofnadwy i fi. Roedd y busnes yn tyfu ac roedd e fel petasai rhywun wedi tynnu rhywbeth o dan fy nhraed i. Roedd e'n amser tywyll ofnadwy.

"Wnes i ddweud wrth Heddlu Dyfed Powys, ac fe ddywedodd yr heddlu i beidio talu nhw ond dyna beth wnes i. Wnes i dalu £1,000. Ges i'r data yn ôl ond weithiau dyw nhw ddim yn gwneud hynny."

Fe rybuddiodd y gall twyllwyr seiber dargedu cwmnïau bach yn ogystal â rhai mawr, ac mae'n rhaid paratoi.

"Mae rhaid i chi baratoi. O ni'n meddwl bod hyn yn digwydd i fusnesau mawr ond gallech chi fod yn fusnes bach yn Sir Gaerfyrddin a gall y troseddau seiber effeithio arnot ti. Roedd bron popeth yn ei le i ddiogelu busnes fi ond roedd y security update wythnos mas," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.