Cynnal cwest dyn ifanc gafodd ei saethu’n farw gyda reiffl aer mewn parti
Mae cwest wedi clywed fod bachgen yn ei arddegau wedi ei saethu’n farw â reiffl aer ar ddamwain mewn parti mewn tŷ.
Roedd Connor Bell, 17 oed, wedi bod yn yfed gyda ffrindiau yng nghartref Joshua Brown yn ardal Basingstoke yn Hampshire ar 8 Tachwedd 2025 pan gafodd ei saethu.
Clywodd y cwest mai Jack Beechy saethodd yr ergyd farwol, a hynny drwy gamgymeriad wedi iddo ddrysu rhwng y sbardun a’r glicied ddiogelwch.
Cafodd Connor Bell anaf i’w ymennydd nad oedd modd iddo oroesi ar ôl i’r belen fynd i mewn i’w ben drwy ei lygad dde.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Southampton, lle bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.
Clywodd y cwest yn Winchester fod Mr Brown, sydd bellach yn 18 oed, wedi cytuno gyda’i rieni y byddai’n cael parti bychan yn ei dŷ.
Roedd y reiffl aer, oedd wedi bod gan y teulu ers tair wythnos, i aros dan glo mewn cwpwrdd.
Ond dywedodd y bachgen fod mwy o ffrindiau na’r disgwyl wedi dod i’r tŷ ar y diwrnod.
Fe wnaethon nhw yfed fodca, seidr a chwrw yn hytrach na’r bocs o 12 potel o gwrw Peroni yr oedd ei dad wedi’i brynu iddyn nhw.
Dywedodd Mr Brown ei fod wedi mynd â’r reiffl aer .177 allan o’r cwpwrdd, a bod pobl wedi ei defnyddio i saethu o’r heulfan ('conservatory') at dargedau yn yr ardd, gan gynnwys poteli.
Dywedodd ei fod yn y lolfa yn hwyrach y noson honno pan redodd Mr Beechy i mewn o’r gegin a dweud: “Dw i wedi saethu Connor.”
Dywedodd Mr Beechy wrth y cwest ei fod wedi yfed cwrw, seidr a fodca yn ystod y noson a’i fod “ychydig bach yn feddw”.
Dywedodd fod Mr Brown wedi gofyn iddo roi’r reiffl yn ôl yn ei chas. Penderfynodd felly danio’r pelenni oedd ar ôl yn y dryll o’r heulfan gan ei fod yn “meddwl y byddai’n fwy diogel”.
Ychwanegodd: “Roeddwn i’n meddwl fy mod wedi ei wagio’n llwyr.”
Dywedodd Mr Beechy mai wrth iddo gerdded i’r gegin y taniodd y reiffl ar ddamwain, tra bod Connor yn sefyll gerllaw.
Dywedodd: “Fe wnes i geisio rhoi’r glicied ddiogelwch ymlaen ond y sbardun anghywir oedd hi. Mae’r glicied ddiogelwch yn union o flaen y sbardun.”
Clywodd y cwest fod Mr Beechy wedi dweud wrth yr heddlu ar ôl i’r gwasanaethau brys gyrraedd: “Fe wnes i saethu fy ffrind â reiffl aer. Damwain oedd hi.”
Daeth archwiliad post-mortem gan y patholegydd Dr Megan Jenkins i’r casgliad mai achos y farwolaeth oedd anaf i’r ymennydd oherwydd diffyg ocsigen. Roedd hynny wedi digwydd ar ôl i’w galon stopio o ganlyniad i gael ei saethu yn ei ben.
Cofnododd y crwner Jason Pegg gasgliad o farwolaeth drwy ddamwain, gyda diffyg sgiliau trin arfau wedi cyfrannu at y farwolaeth.
Dywedodd fod tad Mr Brown, Martin Brown, wedi meddwl mai dim ond ychydig o bobl yr oedd ei fab yn bwriadu eu gwahodd draw, a’i fod wedi dweud wrtho am beidio â mynd â’r reiffl aer allan o’r cwpwrdd.
Dywedodd Mr Pegg: “Roedd y gwir ychydig yn wahanol. Penderfynodd Joshua Brown, fel llawer o bobl yn eu harddegau, ei droi’n fwy o barti tŷ.
“Daeth ei ffrindiau â llawer iawn o alcohol ac o fewn amser byr i ddechrau’r parti, roedd Joshua a’i ffrindiau yn feddw.”
Ychwanegodd y crwner: “Mae’n amlwg i mi fod ei dad wedi dangos iddo [Joshua] sut i ddefnyddio’r reiffl.
“Rwy’n fodlon bod Joshua wedi dweud wrth ei ffrindiau sut i ddefnyddio’r arf, sut i’w lwytho, sut i’w ail-lwytho a sut i’w danio.
“Rwy’n fodlon hefyd ei fod wedi dweud wrthyn nhw sut i ddefnyddio’r glicied ddiogelwch.”
Disgrifiodd farwolaeth Connor fel un “hynod drasig”.
Dywedodd tad Connor, Robert Bell, fod ei fab yn “annwyl iawn” i’w deulu.
“Roedd yn ddireidus ac roedd ganddo ochr ofalgar a thyner. Doedd e byth yn cymryd ei hun ormod o ddifri ac roedd ganddo synnwyr digrifwch gwych,” meddai.
Dywedodd fod ei fab yn mwynhau pêl-droed, yn hoff iawn o fynd i’r gampfa ac yn hyfforddi i fod yn hyfforddwr personol.
Llun: Llys Crwner Winchester