Cynllun i rannu Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ddwy ysgol ar wahân
Mae cynlluniau i rannu ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ddwy ysgol ar wahân wedi cael eu cyflwyno oherwydd “cynnydd sylweddol” yn nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg Gymraeg.
Pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen, byddai Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur fel ag y mae yn cau, gyda dwy ysgol Gymraeg ar wahân yn gweithredu yn ei lle.
Ar hyn o bryd mae’r ysgol yn gweithredu ar ddau gampws, un yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe a’r llall yn ardal Sandfields ym Mhort Talbot.
Mae 1,591 o ddisgyblion yn yr ysgol i gyd.
Mae campws Ystalyfera yn darparu addysg o’r meithrin hyd at y chweched dosbarth, tra bod campws Bro Dur yn darparu addysg uwchradd i ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed.
Cafodd y cynnig i wahanu’r ddau safle ei drafod gan swyddogion Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn cyfarfod o bwyllgor craffu addysg ddydd Iau.
Mae’r cynllun yn rhan o Raglen Strategol Gwella Ysgolion y cyngor.
Dywedodd adroddiad i aelodau y byddai’r rhaglen ehangach yn “debygol iawn” o arwain at newidiadau sylweddol i ddarpariaeth addysg ar draws y fwrdeistref, gan gynnwys agor ysgolion newydd a chau, uno neu gyfuno eraill.
'Cynnydd sylweddol'
Dywedodd yr adroddiad: “Pan gafodd Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ei sefydlu ar draws dau gampws, y bwriad oedd i’r ysgol weithredu fel un ysgol hyd nes y byddai nifer y disgyblion ar draws y ddau safle yn ddigon i gynnal cyllidebau ysgolion ar wahân.
“Yn sgil y cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg, ynghyd â’r twf sy’n cael ei ragweld yn y dyfodol, rhagwelir y bydd y ddau safle yn gallu gweithredu’n annibynnol o fis Medi 2028.”
Yn ôl yr adroddiad, byddai sefydlu dwy ysgol Gymraeg ar wahân yn rhoi trefniadau llywodraethu cliriach, gyda chorff llywodraethu, strwythur arweinyddiaeth, cyllideb a blaenoriaethau strategol ar wahân i bob ysgol.
Mae ffigurau sy’n cefnogi’r cynnig yn dangos y gallai nifer y disgyblion ym mlynyddoedd 7 i 11 ar gampws Bro Dur gynyddu o 522 yn 2026 i tua 708 erbyn 2031.
Mae cyfanswm nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd wedi cynyddu dros y chwe blynedd diwethaf, o 3,422 yn 2020 i 3,666 yn 2026.
Roedd cynghorwyr yn y cyfarfod craffu yn gefnogol ar y cyfan i’r cynlluniau.
Dywedodd swyddogion y byddai’r newid yn rhoi mwy o gapasiti i’r ysgolion dyfu, yn ogystal â helpu i ateb y galw am addysg Gymraeg yn y fwrdeistref.
Bydd y cynnig yn mynd gerbron cabinet y cyngor ar 21 Hydref, pan fydd aelodau’n penderfynu a ddylid cynnal ymgynghoriad ar y cynllun.
Cafodd cynnig ar wahân hefyd ei gyflwyno i ddatblygu canolfannau cymorth dysgu 16 lle ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gyfun Gymunedol Llangatwg ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan.