Y cynhyrchydd a'r gyflwynwraig Sara Ogwen Williams wedi marw
Mae'r cynhyrchydd a'r gyflwynwraig Sara Ogwen Williams wedi marw yn 55 oed ar ôl cyfnod byr o waeledd.
Mewn teyrnged ar gyfrwng cymdeithasol Facebook fe gyhoeddodd ei brawd, y cyflwynydd a'r newyddiadurwr, Rhodri Ogwen Williams, ei marwolaeth brynhawn Iau.
“Mae ein calonnau wedi torri,” meddai Rhodri.
“Rydyn ni wedi ein llorio’n llwyr wrth orfod ffarwelio â’r chwaer, y ferch, y fam, y wraig, y ffrind a’r cydweithiwr gorau y gallai unrhyw un obeithio amdani.
“Sara oedd y person gorau un. Roedd Sara’n hardd y tu mewn a’r tu allan. Sara oedd ein harwr, a hi fydd ein harwr am byth.
“Mae ei hetifeddiaeth yn golygu y bydd hi’n parhau i ddylanwadu ar bawb oedd yn ddigon ffodus i’w chyfarfod.
Ychwanegodd: “Sara, ti yw’r gorau. Fe fyddwn ni i gyd ar goll hebddot ti, ond fe fyddi di gyda ni bob dydd, fel mae Dad.
“Diolch i chi i gyd am eich cariad a’ch cefnogaeth drwy gydol brwydr ddewr Sara yn erbyn canser. Brwydrodd Sara â dewrder ac urddas mawr.
“Gyda’n holl gariad fel teulu, rydyn ni’n gofyn i chi roi ychydig o amser i ni ddod i delerau â cholli Sara.
“Pan fydd yr amser yn iawn, fe gawn ni gysur o fod gyda chi a rhannu ein hatgofion gwych amdani."
Fe ddaeth Sara yn wyneb cyfarwydd ar ddiwedd y 90au am ei gwisg drawiadol gyda’r ddraig goch arni, pan oedd ‘Cool Cymru’ yn ei anterth.
Roedd Sara yn ferch i'r cyflwynydd a'r actores Jenny Ogwen, a'r diweddar ddarlledwr Euryn Ogwen Williams.
'Merch anhygoel'
Dywedodd y cyflwynydd Owain Wyn Evans wrth raglen Heno: "O'dd e jest yn newyddion mor drist. O'dd Sara yn ferch anhygoel a fi 'di jest mwynhau bob eiliad gyda hi fel ffrind dros y blynydde. O'dd hi hefyd yn gynhyrchydd gwych.
"O'dd Sara yn un o'r bobl 'ma o'dd gyda'r gallu i ddod â'r gore mas o ti fel unigolyn, p'un ai bod ti ar gamera neu beidio.
"O'dd hi'n goleuo unrhyw ystafell o'dd hi'n cerdded mewn i. Ma' gymaint o ffrindie 'da hi a fi'n gw'bod gymaint o bobl sy'n mynd i fod yn drist iawn o glywed bo' ni wedi colli Sara, a fi jest yn anfon gymaint o gariad at ei theulu hi."
Wrth roi teyrnged iddi dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llion Iwan: "Roedd Sara yn berson oedd wastad yn llawn syniadau a chreadigrwydd ac wedi cyfrannu at raglenni a chyfresi ar S4C am flynyddoedd.
"Byddwn yn colli y bwrlwm afiaethus ac y gwerthoedd cynhyrchu roedd yn cyfrannu i’r cynnwys yn gyson, gyda’i chyfres olaf wedi darlledu ond ychydig fisoedd nol.
"Cydymdeimlad dwys gyda’i phlant Soffia a Gabriel, ei brawd Rhodri a’i mam Jenny.”
