Teyrnged teulu i ddyn a fu farw mewn ymosodiad honedig yn Y Trallwng

Young John Morgan

Mae teulu dyn a fu farw mewn ymosodiad honedig yn Y Trallwng wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Young John Mongan, oedd yn 49 oed, yn y digwyddiad yn ystod oriau mân fore dydd Sul 28 Mehefin.

Mae Martin Slezak, 22 oed, o Stryd Stanley, Y Trallwng, wedi’i gyhuddo o lofruddio Mr Mongan, oedd yn dod o Walsall.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod Young John Mongan yn ddyn teuluol "a fyddai'n gwneud unrhyw beth i ni, ac ni fyddai byth yn gadael i'w blant na'i deulu fod yn brin o unrhyw beth."

"Mae ein bywydau wedi newid mewn amrantiad ac ni fyddant byth yr un fath eto. I'w feibion ​​- John, Michael, Christy, Ned, David a Bernie - ac i'w ferched - Staceymarie, Charlotte, Megan ac Annalise - roedd yn unigryw; yn ffrind gorau, yn arwr iddynt fyddai wastad yn eu hamddiffyn. 

"Maen nhw wedi torri eu calonnau ac yn ei golli bob dydd. I'w wraig, Margaret, ef oedd popeth, ac mae eu bywydau wedi newid mewn amrantiad.

"Fel taid, roedd yn caru'r ddaear yr oedd ei wyrion ac wyresau yn cerdded arni.

"Mae hefyd yn cael ei golli gan ei feibion ​​yng nghyfraith, Michael a Francie, a'i ferched yng nghyfraith, Christina, Sadie, Nora a Winnie."

Ychwanegodd y teulu y byddai ei enw "yn byw ymlaen" ganddynt, gan mai fo oedd "popeth" i'r teulu.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.