Cynhyrchiad newydd i ddathlu canmlwyddiant Theatr y Stiwt
Fe fydd cynhyrchiad newydd yn cael ei berfformio ym mis Medi i ddathlu canmlwyddiant Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.
Fe agorodd y Stiwt ym mis Medi 1926, gyda'i gwreiddiau yn nhreftadaeth lofaol yr ardal.
Cafodd y theatr ei adeiladu gan Sefydliad Lles y Glowyr a gododd geiniog ar bob tunnell o lo oedd wedi ei godi yn ystod blynyddoedd y dirwasgiad rhwng 1924 a 1926.
Ers hynny, mae’r Stiwt wedi bod yn lle i berfformio, cyfarfod a dysgu, gan ddod yn gartref cymdeithasol, addysgol a diwylliannol i bobl yr ardal.
Fe ddaeth miloedd o bobl leol at ei gilydd hefyd i ymgyrchu dros eu theatr leol ar ôl iddi gau ym 1977 a mynd yn adfail.
Dan fygythiad o gael ei ddymchwel, fe arweiniod ymgyrch ar lawr gwlad a chodi arian yn y gymuned at adfer yr adeilad a’i ailagor ym mis Medi 1996.
Mae'r adeilad bellach wedi’i restru’n Radd II, ac i ddathlu'r canmlwyddiant, fe fydd cynhyrchiad dwyieithog newydd yn cael ei berfformio sef 'In A Hundred Years / Ymhen Can Mlynedd' dan arweiniad yr ysgrifennwr a'r cynhyrchydd Bethan Jones a’r cyfarwyddwr Daniel Lloyd o Theatr Clwyd.
Bydd y sioe yn cael ei chynnal ar 25 a 26 Medi, gyda chefnogaeth tîm cymunedol, gyda Llŷr Evans yn ysgrifennu’r sgript a cherddi newydd gan Gwynne Williams.
Mae'r cast hefyd yn cynnwys enwau cyfarwydd, perfformwyr lleol a grwpiau cymunedol, gan gynnwys yr actorion Mark Lewis Jones, Stifyn Parri, Llŷr Williams a Caitlin Drake.
'Wrth galon y gymuned'
Dywedodd y cynhyrchydd a’r actor Stifyn Parri, a gafodd ei eni yn Rhos: "Nid yw Rhos erioed wedi bod yn brin o dalent, cymeriad na hiwmor, felly doedd hwn byth yn mynd i fod yn barti pen-blwydd tawel.
"Yr hyn sy’n gwneud y cynhyrchiad hwn mor arbennig ydi'r ffaith ein bod ni'n dod ag enwau cyfarwydd, perfformwyr lleol a’r gymuned at ei gilydd ar yr un llwyfan. Mae hynny’n teimlo’n gwbl nodweddiadol o’r Stiwt."
Ychwanegodd Bethan Jones: "Mae yna ddywediad adnabyddus: 'Pobl yw Rhos, nid lle' ac mae’r Stiwt wedi bod wrth galon y gymuned, gan gefnogi addysg, y celfyddydau, diwylliant a’r iaith ers canrif.
"Roeddem am adrodd hanes y Stiwt drwy’r bobl a’i llenwodd â bywyd a’r rhai sydd wedi sicrhau ei goroesiad; cydnabod y gorffennol, dathlu’r presennol ac edrych ymlaen at y dyfodol."
Dywedodd Daniel Lloyd, cyfarwyddwr In A Hundred Years / Ymhen Can Mlynedd, a gafodd ei fagu yn Rhos: "Nid trin hanes fel rhywbeth pell yw’n bwriad.
"Mae’r Stiwt yn dal i fod yn lle byw, gweithgar ac annwyl iawn, ac mae’r cynhyrchiad yn edrych yn ôl gyda balchder ac anwyldeb.
"Ond mae ganddo hefyd egni adeilad nad yw wedi’i orffen eto. Cefais fy magu yn gwylio beth oedd y lle hwn yn ei olygu i bobl yma, ac mae hynny wedi aros gyda mi byth ers hynny."
