Cyngor Sir Gâr yn cytuno i gau dwy ysgol gynradd wledig yn y sir
Mae Cyngor Sir Gâr wedi cytuno yn derfynol i gau dwy ysgol gynradd wledig yn y sir.
Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor yng Nghaerfyrddin fore dydd Mercher, fe wnaeth cynghorwyr ystyried dau adroddiad oedd yn amlinellu'r gwrthwynebiadau dros gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn.
Bydd y ddwy ysgol yn cau ar ddiwedd y flwyddyn.
Mae dyfodol pedair ysgol gynradd arall yn y sir hefyd yn y fantol - gyda'r Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yn argymell ddydd Mawrth y dylai'r cyngor fwrw ymlaen gyda'r argymhelliad i gau Ysgol Bancffosfelen, Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, ac Ysgol Carwe.
Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ynglŷn â'r cynnig i gau Ysgol y Fro rhwng 16 Ionawr a 2 Mawrth eleni.
Roedd mwyafrif yr ymatebion yn gwrthwynebu'r cynnig.
Pryderon lleol
Roedd y prif bryderon dros ddyfodol Ysgol y Fro yn ymwneud ag effaith ar y gymuned, bywiogrwydd y Gymraeg yn y pentref, safonau addysgol a llesiant, teithio, effaith ar y Cylch Meithrin a'r achos ariannol.
Bydd Ysgol y Fro yn cau ar ddiwedd y flwyddyn, gyda'r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol y Dderwen o 31 Rhagfyr.
Yn achos Ysgol Gynradd Meidrim, lleisiodd y gwrthwynebwyr bryderon am effaith y cynnig ar y disgyblion, y teuluoedd a'r gymuned ehangach.
"Roedd y pryderon mwyaf cyffredin a nodwyd yn ymwneud â rôl Ysgol Gynradd Meidrim fel rhan ganolog o fywyd y pentref a phwysigrwydd yr ysgol wrth gynnal cydlyniant cymunedol, cefnogi hunaniaeth leol a chyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor y gymuned wledig," meddai'r adroddiad gwrthwynebu oedd yn cael ei ystyried ddydd Mercher.
Bydd pentref Meidrim ei hun yn dod yn rhan o ddalgylch Ysgol Griffith Jones. Byddai rhannau eraill o'r dalgylch presennol yn trosglwyddo i Ysgol Hafodwenog ac Ysgol Bancyfelin.
'Lleihad aruthrol'
Wrth agor y drafodaeth ddydd Mercher, dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, fod y cyngor yn rhaid i'r cyngor ymateb i'r gostyngiad mewn nifer y disgyblion yn ei ysgolion.
"Mewn 15 mlynedd yng Nghymru, bydd 100,000 yn llai o blant ysgol... mae'r lleihad yma yn aruthrol," meddai.
Wrth drafod sefyllfa Ysgol y Fro, dywedodd: "Mae'r sefyllfa ariannol yn bryder, gyda'r ddyled ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol bron yn £120,000.
"Ym mis Medi eleni, ni gofrestrwyd yr un disgybl ar gyfer yr ysgol... does dim plant yn yr ysgol," meddai.
"Mae'r wrthblaid wedi gweiddi arna i a'r Cabinet i beidio llusgo traed - dyna'r cyhuddiad yn ein herbyn ni. Wel ry' ni nawr gyfeillion yn gweithredu. Ry' ni'n gwneud rhywbeth i gwrdd â'r sefyllfa ddifrifol ddifrifol sy'n bod ynglŷn â niferoedd ein plant ni.
"Felly, rwy'n cynnig yn ffurfiol y bydd yr ysgol yn cau'n swyddogol ar ddiwedd y flwyddyn a'r plant yn ôl y ddogfen yn mynd i Ysgol y Dderwen neu fel y dywedais i unrhyw ysgol o ddewis y rhieni."
Ychwanegodd nad oedd yn cael pleser o wneud y cynigion dan sylw.
"Mae'n anodd - mae'n anodd - fe ddwedes i hynna o'r blaen," meddai.
"Ry' ni wedi cael ein hethol i wneud y gorau dros ein cymunedau ni a rwy'n parchu eich safbwynt chi, ond eto i gyd mae realiti'r sefyllfa yn gwneud i ni feddwl yn strategol mae'n rhaid ymateb i'r hyn sy'n digwydd a chynllunio ar gyfer addysg heddi ac yfory."
Wrth droi at Ysgol Meidrym, dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol i "ymesgusodi" ei hun rhag gwneud unrhyw benderfyniad ar ddyfodol yr ysgol honno.
'Nid bach yw'r golled'
Mewn araith emosiynol yn gwrthwynebu cau Ysgol Meidrim, dywedodd y Cynghorydd Jean Lewis, yr aelod dros ward Trelech, mai "nid bach y'w golled" wrth gau ysgol wledig.
"Mae cymuned Ysgol Meidrim heddiw yn teimlo'n hynod siomedig - yn dris iawn bod cynnig i gau yr ysgol ger ein bron.
"Mae'r corff llywodraethu wedi gweithio'n ddiflino i geisio sicrhau dyfodol yr ysgol. Maent wedi ymateb yn adeiladol i bryderon yr awdurdod, wedi cyflwyno dewisiadau amgen, ymarferol a chynaliadwy, wedi sicrhau ffynonellau cyllid allanol i dangos fod llwybrau credadwy ar gael i fynd i'r afael â'r heriau sydd yn wynebu'r ysgol."
Ychwanegodd bod yr arbediad net o tua £13,000 o gau'r ysgol yn swm bach iawn o gymharu gyda "gwerth yr hyn sydd mewn perygl."
Dywedodd fod nifer y disgyblion wedi aros yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd yn Ysgol Meidrim, ac nad oedd "yn ysgol oedd wedi profi gostyngiad parhaus."
"I'r gymuned hon, nid brics a mortar yw cymuned ysgol wledig. Nid bach yw'r golled. Rydym yn sôn am blant yn colli eu hysgol, teuluoedd yn colli canolbwynt eu cymuned a phentref yn colli sefydliad sydd wedi gwasnaethu'r ardal ers cenedlaethau.
"Ac unwaith y bydd ysgol fel hon wedi cau, does dim troi'r cloc yn ôl."
'Diogelu dyfodol y sir'
Wrth annerch y cyfarfod, galwodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Linda Evans, ar yr aelodau i gefnogi'r cynnig.
"Ni 'ma i gynrychioli pobl Sir Caerfyrddin ond yn fwy na 'na, ni ymai i gynrychioli a diogelu dyfodol y sir yma o ran y teuluoedd sy'n byw yma....
"Mae pob sir arall yng Nghymru wedi gorfod gweithredu dros y blynyddoedd. Mae na siroedd sydd yn mynd i weithredu eto dros y blynyddoedd nesaf.
"Dim politics yw hwn - dyw hwn ddim byd i'w wneud â politics... fi'n treial, mae'r Cabinet yn treial, ni gyd yn treial gobeithio shwt i ni'n symud ymlaen i ddiogelu bod plant sir Gâr yn cael yr addysg a'r cyfleoedd gorau posib.
"Shwt y ni'n gwneud hynna gyda'r hyn o gyllid sydd gyda ni?"
Ychwanegodd bod yn rhaid i'r aelodau ystyried sut oedd symud ymlaen.
"Y gwir yw mi fydd yn rhaid i ni gau ambell i ysgol i gryfhau ysgol arall, er mwyn sicrhau bod addysg Gymraeg gyda ni ar hyd y sir.
"Ond mae'r dyddie lle mae ysgol ymhob pentre, ymhob pentre neu am yn ail bentref - mae'r dyddiau 'na yn anffodus yn dod i ben."