Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gwneud £1.6m o bobl yn defnyddio lonydd ‘bws yn unig’

Cylchfan Trostre

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi elwa o £1.6m dros gyfnod o bedair mlynedd o bobl yn cael eu dirwyo am ddefnyddio dwy lôn ‘bws yn unig’ yn y sir.

Mae un o’r lonydd yn arwain oddi ar gylchfan Trostre yn Llanelli, tuag at McDonalds, a’r llall yn fodd o adael Teras Seaview ym Mhorth Tywyn.

Mae’r geiriau ‘Bws yn unig’ a ‘Bysiau yn unig’ wedi ei nodi yn glir ar y ffordd – ond efallai yn rhy hwyr i rai sydd eisoes wedi gyrru drostyn nhw.

Mae arwydd cyn cylchfan Trostre hefyd yn cynnwys rhybudd.

Mae 43,248 o yrwyr wedi wynebu dirwy am ddefnyddio y lon 'bws yn unig' ar gylchfan Trostre a 1,855 am ddefnyddio’r lon ar Deras Seaview, a hynny ers 2022.

Mae gyrwyr wedi wynebu £1,625,829.71 mewn dirwyon am ddefnyddio'r ddwy heol ers cyflwyno y dirwyon ym mis Awst y flwyddyn honno, yn ôl ymateb cais rhyddid gwybodaeth a gyhoeddwyd fis Awst.

Mae hynny’n golygu bod gyrwyr wedi talu dirwy o £41.90 yr un ar gyfartaledd.

Mae’r cyfamswm wedi syrthio dros y blynyddoedd, o uchafbwynt o £506,696.00 yn 2023/24, i £441,676.73 yn 2024/25, i £347,561.98 yn 2025/26.

Mis Awst oedd y prysuraf o ran dirwyon gyda 3,760 wedi eu dosbarthu yn y mis honno ers y flwyddyn lawn gyntaf, 2023/2024, o’i gymharu gyda 1,838 yn unig ym mis Ionawr.

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: "Mae lonydd bysiau yn Sir Gâr yn cael eu dangos yn glir drwy arwyddion a/neu farciau ffordd priodol.

"Mae'r incwm o ddirwyon gorfodi lonydd bysiau yn cael ei reoli'n dynn gan ddeddfwriaeth genedlaethol, ac nid oes modd ei ddefnyddio fel refeniw cyffredinol. 

"Rhaid i unrhyw incwm sydd dros ben ar ôl talu costau gorfodi gael ei ail-fuddsoddi mewn gwaith sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn unig, fel gwella trafnidiaeth gyhoeddus, gwella diogelwch ffordd, cynnal a chadw neu wella priffyrdd, neu gefnogi mentrau teithio cynaliadwy. 

"Mae hyn o fudd uniongyrchol i ddefnyddwyr ffordd, mae'n lleihau tagfeydd ac yn cryfhau seilwaith trafnidiaeth leol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.