Cyngor diogelwch wrth i brif dymor achubwyr bywyd yr RNLI ddod i ben
Mae’r Bad Achub yn annog pobl i gymryd gofal wrth ymweld ag arfordir Cymru yn ystod yr hydref a’r gaeaf, wrth i brif dymor timau achub bywyd ddod i ben ddydd Sul.
Bydd patrolau’r RNLI ar y rhan fwyaf o draethau Cymru wedi dod i ben erbyn 18:00 ddydd Sul 6 Medi.
Ond bydd achubwyr bywyd yn parhau i oruchwylio rhai traethau am gyfnod.
Yn sir Abertawe, bydd Bae Langland a Bae Caswell mae achubwyr yn bresennol bob dydd rhwng 10:00 a 18:00 hyd at, ac yn cynnwys, dydd Sul 13 Medi.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd traeth Rest Bay yn cael ei oruchwylio ar benwythnosau tan 13 Medi, a Bae Treco ar benwythnosau tan 27 Medi.
Yn Sir Benfro, bydd achubwyr ar Draeth Porth Mawr ger Tyddewi ar benwythnosau tan hanner tymor mis Hydref.
‘Meddwl am eich diogelwch’
Dywedodd Chris Cousens, Arweinydd Diogelwch Dŵr yr RNLI yng Nghymru, fod y sefydliad yn “gofyn i bobl barhau i gymryd gofal a gwybod sut i gadw’n ddiogel ar yr arfordir.”
“Pryd bynnag y byddwch yn ymweld â’r traeth, ond yn enwedig os ydych yn mynd i’r dŵr lle nad oes achubwyr bywyd, mae’n bwysig eich bod yn meddwl am eich diogelwch,” meddai.
“Rydym pob tro yn argymell mynd i’r dŵr gyda rhywun arall. Mae cael rhywun gyda chi yn golygu y gallan nhw eich helpu neu alw am gymorth mewn argyfwng.
“Rhowch sylw i’r arwyddion diogelwch wrth fynedfa’r traeth, gan y byddan nhw’n eich rhybuddio am beryglon lleol. Os yw’n bosib, siaradwch â rhywun sy’n adnabod yr ardal ac sy’n gallu cynnig cyngor ac egluro unrhyw beryglon.”
Ychwanegodd: “Gwiriwch y tywydd ac amseroedd y llanw pob tro, ac ystyriwch eich gallu eich hun. Os nad ydych yn siŵr, mae’n well aros allan o’r dŵr.
“Ewch â ffordd o gysylltu â rhywun gyda chi, fel ffôn symudol. Os byddwch chi neu rywun arall mewn trafferth, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.”
Ymdrochi mewn dŵr oer
Dywedodd Mr Cousens fod ymdrochi mewn dŵr oer yn ystod yr hydref a’r gaeaf yn dod yn fwyfwy poblogaidd, a'i bod yn well gwneud hynny gydag eraill.
“Rydym yn cynghori pobl i beidio â gwneud hyn ar eu pen eu hunain. Mae’n fwy diogel ac yn fwy o hwyl mynd gyda rhywun arall neu grŵp,” meddai.
“Os byddwch mewn trafferth yn y dŵr, Arnofiwch i Fyw.
“Pwyswch eich pen yn ôl gyda’ch clustiau o dan y dŵr. Ymlaciwch a cheisiwch reoli’ch anadl.
“Defnyddiwch eich dwylo i’ch helpu i arnofio. Peidiwch â phoeni os bydd eich coesau’n suddo, gan ein bod ni i gyd yn arnofio’n wahanol.
“Ar ôl i chi adennill rheolaeth ar eich anadl, galwch am help neu nofiwch i le diogel os gallwch.”
Mae hydref a’r gaeaf yn tueddu i ddod â thywydd mwy garw, sy’n gallu peri mwy o berygl i bobl sy’n ymweld â’r traeth.
Ymhlith y peryglon mae tonnau mwy a gwyntoedd cryfach, sy'n cynyddu’r risg o gerhyntau terfol (rip current).
Os cewch eich dal mewn cerrynt terfol, cyngor yr RNLI yw:
- Peidiwch â cheisio nofio yn ei erbyn, gan y byddwch yn blino
- Os gallwch sefyll, cerddwch drwy’r dŵr yn hytrach na nofio
- Os gallwch, nofiwch yn gyfochrog â’r lan nes eich bod yn rhydd o’r cerrynt, cyn anelu am y lan
- Codwch eich llaw a gweiddiwch am help bob amser