Cynghorydd yn galw am enwau Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru
Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi mynegi “pryder dwfn ac angerddol” am yr hyn mae hi’n ei ddisgrifio fel colli enwau lleoedd Cymraeg ar fapiau.
Mae’r Cynghorydd Einir Wiliams, sy’n cynrychioli ward Gerlan ar Gyngor Gwynedd, yn galw ar yr Arolwg Ordnans (Ordnance Survey) i ddefnyddio enwau tirwedd Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru.
Dywedodd yr Ordnance Survey nad ydyn nhw'n gallu newid enwau ar ei liwt ei hun, ac mai ei nod yw cofnodi enwau lleoedd sydd mewn defnydd cyffredin.
Mae’r Cynghorydd Wiliams hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn sicrhau bod yr asiantaeth fapio Brydeinig yn “parchu ac yn diogelu” enwau Cymraeg hanesyddol.
Bydd y mater yn cael ei godi ganddi fel rhybudd o gynnig yng nghyfarfod llawn nesaf y cyngor ddydd Iau, 14 Mai.
Yn y rhybudd o gynnig, dywedodd y Cynghorydd Wiliams: “Rwyf am fynegi pryder dwfn ac angerddol am bolisi presennol yr Ordnance Survey (OS), sy’n arwain at ddileu, tanseilio ac anwybyddu enwau lleoedd Cymraeg sydd wedi bod yn rhan o’n tirwedd ers canrifoedd.
“Mae mapiau’r Ordnance Survey ar hyn o bryd yn disodli enwau Cymraeg hanesyddol gydag enwau Saesneg sydd heb sail na thraddodiad, er enghraifft The Mushroom Garden yn lle Coed Cerrig y Frân, a Heather Terrace Path yn lle Llwybr Gwregys.
“Mae rhoi enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau Cymraeg yn creu’r argraff bod yr enwau Cymraeg yn ddewisol neu’n eilradd, er enghraifft Cwm Cneifion/Nameless Cwm, Bala Lake/Llyn Tegid, a Snowdon/Yr Wyddfa.”
'Gwthio o'r neilltu'
Yn 2022, fe bleidleisiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddefnyddio’r enwau Yr Wyddfa ac Eryri yn hytrach na Snowdon a Snowdonia ym mhob cyfathrebiad swyddogol.
Yn ei chynnig, mae’r Cynghorydd Wiliams yn dweud bod yr arferion hyn yn “cyfrannu’n uniongyrchol at golli enwau Cymraeg”, ac yn tanseilio’r iaith, hanes a hunaniaeth genedlaethol.
“Pan mae’r Ordnance Survey yn mabwysiadu enw Saesneg, mae’n ymddangos ar wefannau, arwyddion, cyhoeddiadau a’r cyfryngau, ac o ganlyniad mae’r enw Cymraeg yn cael ei wthio o’r neilltu.
“Mae hyn yn digwydd hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg ifanc, sy’n aml yn cael eu harwain i gredu mai’r enw Saesneg yw’r ‘safon’.
“Dyma sut mae iaith yn cael ei gwanhau, nid mewn un ergyd, ond mewn mil o gamau bach.
“Mae enwau lleoedd Cymraeg yn rhan o’n DNA diwylliannol. Maen nhw’n dweud hanes y tir, y bobl, y chwedlau, y gwaith, y bywyd. Does gan neb yr hawl i’w dileu na’u disodli."
Mae’r cynnig yn galw ar Gyngor Gwynedd i ysgrifennu at yr Ordnance Survey i ofyn iddyn nhw “roi diwedd ar y polisi niweidiol presennol”, ac i fabwysiadu egwyddor o ddefnyddio enwau tirwedd Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru.
Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn ffurfiol er mwyn sicrhau bod yr Ordnance Survey yn parchu ac yn diogelu enwau Cymraeg hanesyddol.
“Nid mater o fapiau yn unig yw hyn. Mae’n fater o hunaniaeth, parch a chyfiawnder diwylliannol,” meddai’r Cynghorydd Wiliams.
'Cynnydd'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Ordnance Survey eu bod yn "ymrwymo i gadw fersiynau awdurdodol o enwau lleoedd ar ei fapiau pan maen nhw mewn defnydd cyffredin."
“Mae cynrychiolaeth gywir o enwau lleoedd, gan gynnwys enwau dwyieithog os yw’r ddau enw’n cael eu defnyddio, yn hanfodol er mwyn darparu cynnyrch mapio o safon uchel i’r cyhoedd ac i gefnogi’r llywodraeth a’r gwasanaethau brys," medden nhw.
“Ni all yr Ordnance Survey benderfynu ar ei ben ei hun i newid enw.
“Mae unrhyw newidiadau prin rydym ni’n eu gwneud fel arfer yn ganlyniad i newidiadau gan gyrff awdurdodol, neu pan mae enw’n mynd allan o ddefnydd ac enw arall yn dod i ddefnydd.
“Rydym ni’n parhau i weld cynnydd yn nifer yr enwau Cymraeg, ac wedi cefnogi gwaith diweddar i fabwysiadu nifer o enwau lleoedd Cymraeg safonol ar lynnoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gan sicrhau eu bod yn cael eu cofnodi yn ein cronfa ddata.
“Rydym ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a’r parciau cenedlaethol i weld beth mwy y gallwn ni ei wneud i gefnogi’r Gymraeg yn ein mapiau.”