Cyngerdd o gorau Cymreig ym Melbourne i nodi trychineb Aberfan
Cyngerdd o gorau Cymreig ym Melbourne i nodi trychineb Aberfan
Mae paratoadau ar gyfer cyngerdd yn Melbourne. Awstralia i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan wedi “dod â’r gymuned Gymreig at ei gilydd” yn y ddinas.
Bydd 200 o berfformwyr, gan gynnwys pum chôr Cymreig, yn ymddangos ar lwyfan Neuadd Tref Melbourne nos Sul i gymryd rhan yng nghyngerdd Cantata Memoria: For the Children.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r cyngerdd corawl, a gafodd ei gyfansoddi gan Syr Karl Jenkins, gael ei berfformio yn ei gyfanrwydd yn Awstralia.
Mae un o unawdwyr y cyngerdd, y soprano Heulen Cynfal, yn dweud ei bod yn "ymfalchïo" wrth rannu diwylliant Cymraeg gyda thrigolion ail ddinas fwyaf poblog y wlad.
“Mae'n fendigedig cael rhannu perfformiad sy'n mor bwysig i'n diwylliant ni yng Nghymru," meddai.
"Mae'n cofio am drychineb Aberfan a chofio am y plant bach ddaru golli bywydau, ond hefyd dathlu pa mor gryf mae cymuned Aberfan wedi bod.”
Symudodd Heulen, a enillodd y Rhuban Las yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, o bentref Parc, ger Y Bala i Melbourne yn 2024.
"Mae'n anhygoel bod yn rhan o'r dathliad yma'r holl ffordd ochr arall i'r byd i Gymru, ond yn cael, ymfalchio yn bod yn Gymraeg," meddai.
"Dan ni 'di bod yn paratoi ers wythnosau - misoedd, rhai pobl, ac mae hyn just wedi dod â'r gymuned Gymraeg i gyd at ei gilydd yn Melbourne."
'Darn anferth'
Yn ôl trefnwyr y cyngerdd, Aled Roberts, roedd yn rhaid ymestyn maint y llwyfan yn y neuadd, sydd dros 156 mlynedd oed, er mwyn cynnwys yr holl berfformwyr.
"Ar y llwyfan bydd yna bum côr Cymreig ac un côr arall lleol, y Gisborne Singers, ddaru berfformio yn narn Syr Karl Jenkins yma yn Efrog Newydd ddegawd yn ôl.
"Yna mae côr plant, y Melbourne Youth Choral, ac wedyn ar ben hynny bydd yna gerddorfa ieuenctid Melbourne, felly bydd yna 200 ar lwyfan. Mae'n ddarn anferth o'r rhan hynny."
"Oeddan ni'n meddwl lle byswn ni eisiau ei llwyfannu hi - mae yna neuaddau mwy, mae yna lot o neuaddau llai.
"Ond dyma ni'n go for broke a ddaru ni benderfynu mynd am y Melbourne Town Hall, sydd yn anferth o neuadd - 1,400 o seddi ac un o'r rhai ychydig lefydd sy'n gallu cymryd cryw o 200 ar lwyfan
"Dan ni wedi gorfod ymestyn y llwyfan hefyd, er mwyn gael pawb i fewn - so ie, mae'n gyngerdd fawr."
'Sbardun' i'r Cymry yn y ddinas
Dechreuodd y paratoadau ar gyfer y cyngerdd ym mis Chwefror gyda rhai corau wedi'u lleoli yng nghymunedau yn nhalaith Fictoria yn teithio awr a hanner yn gyson i Melbourne er mwyn ymarfer gyda'i gilydd.
Anaml mae'r corau - sef y Melbourne Welsh Male Choir, Victoria Welsh Choir, yr Australian Welsh Male Choir, Mornington Peninsula Welsh Ladies Choir a'r Geelong Welsh Ladies Choir - yn ymgynnull ar gyfer perfformiadau.
"Gobeithio bydd o'n sbardun i gael y Cymry at ei gilydd," ychwanegodd Mr Roberts, sydd wedi byw yn Awstralia ers 1998 a magu ei ddau fab yno gyda'i wraig Mair.
"Da ni wedi bod yn sôn ers sawl blwyddyn sut mae cael gwaith ar y cyd rhwng y pum côr Cymreig.
"Mae yna gymanfa ganu pob Mawrth y 1af lle mae'r corau yn cymryd rhan ac mae yna fil o bobl yn yr Eglwys Gadeiriol yng nghanol Melbourne. ond tu hwnt i hynny, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw wneud rhywbeth efo'i gilydd ers talwm iawn.
"Dwi'n meddwl am Efrog Newydd, er enghraifft lle mae'n anferth o achlysur yn St Patrick's Day.
"Sut ydyn ni'n gallu gwneud rhywbeth tebyg yn Melbourne, yn Sydney ac yn y blaen?"
Mae trefnwyr yn credu mai'r perfformiad fydd y mwyaf yn y byd i nodi 60 mlynedd ers y trychineb, a laddodd 116 o blant a 28 oedolyn.
Diflannodd bron i genhedlaeth gyfan ar ôl i Ysgol Gynradd Pantglas a 18 o gartrefi gael eu claddu o dan domen lo a lithrodd i lawr y mynydd ar 21 Hydref 1966.
Ychwanegodd Mr Roberts: "Dwi'n cofio bod i lawr yn Sir Benfro yr adeg hynny a clywed y newyddion ar y radio.
"Mae o'n debyg i, lle oeddech chi pan wnaeth Diana farw, lle oeddech chi pan gafodd JFK ei saethu. I fi, mae o'n aros yn y cof fel yna."