Cyn-gynhyrchydd BBC Cymru yn gwadu bod ‘â dros 6,000’ o luniau anweddus o blant yn ei feddiant
Cyn-gynhyrchydd BBC Cymru yn gwadu bod ‘â dros 6,000’ o luniau anweddus o blant yn ei feddiant
Mae llys wedi clywed bod cyn-gynhyrchydd BBC Cymru wedi creu a lawrlwytho dros 6,000 o luniau anweddus o blant, cyhuddiadau mae'r diffynydd yn eu gwadu.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth fod Dylan Dawes wedi lawrlwytho neu greu’r lluniau ar bedwar dyfais gwahanol.
Mae’r dyn 50 oed yn wynebu tri cyhuddiad o "feddu" ar luniau anweddus o blant, a thri chyhuddiad o "greu" lluniau anweddus o blant.
Mae’r tri cyhuddiad sy’n ymwneud â lawrlwytho lluniau anweddus o blant yn honni fod gan Mr Dawes y delweddau yn ei feddiant hyd nes diwrnod ei arestio ar 28 Chwefror 2022.
Ac mae’r cyhuddiadau sy’n ymwneud â chreu delweddau anweddus o blant yn honni eu bod nhw wedi cael eu creu rhwng 31 Rhagfyr 2006 a 1 Mawrth 2022.
Plediodd Mr Dawes yn ddieuog i bob un o’r cyhuddiadau.
6,277 o ddelweddau
Cafodd y rheithgor o bedwar dyn ac wyth menyw eu dewis brynhawn Mawrth cyn i'r achos llys ddechrau.
Wrth amlinellu’r achos yn erbyn Dylan Dawes dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Harry Baker fod swyddogion wedi dod o hyd i 6,277 o ddelweddau anweddus o blant ar ddyfais hard drive, gliniadur, a dau iPad oedd yn berchen i Mr Dawes.
Roedd bron i 200 o’r lluniau yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A.
Roedd y gweddill yn lluniau wedi eu hadnabod fel rhai categorïau B a C, sydd yn llai difrifol 'na delweddau categori A.
Roedd cannoedd o’r lluniau yn union debyg (duplicates) o luniau eraill oedd wedi eu lawrlwytho neu wedi eu creu gan Dylan Dawes.
Clywodd y llys nad oedd modd i Mr Dawes gael mynediad at gannoedd o luniau gan ei fod wedi eu dileu, ond bod arbenigwyr fforensig digidol wedi gallu eu hadfer.
Dywedodd Jordan Myhill, arbenigwr fforensig digidol, bod modd gweld dyddiad creu neu lawrlwytho'r delweddau ar y dyfeisiau cyfrifiadurol.
"Heb wybodaeth arbenigol ni fyddai person arferol yn gallu dod o hyd i ffeiliau sydd wedi eu dileu," meddai wrth y llys.
"Ond hyd yn oed os ydy'r lluniau yn cael eu dileu o'r bin ailgylchu ar y gliniadur, maen nhw dal yn gallu cael eu hadfer gan arbenigwyr fforensig."
Clywodd y llys nad oedd angen cyfrinair i ddefnyddio hard drive na gliniadur Mr Dawes, gan olygu bod unrhyw un oedd gyda mynediad at y dyfeisiau yn gallu eu defnyddio.
‘Dim diddordeb mewn plant’
Cafodd Dylan Dawes ei arestio gan swyddogion yn ei gartref yn ardal Treganna o Gaerdydd ar 28 Chwefror 2022, ac fe gafodd y dyfeisiau eu meddiannu gan yr heddlu.
Mewn cyfweliadau gyda’r heddlu wedi iddo gael ei arestio fe wnaeth Mr Dawes wadu meddiannu a chreu unrhyw luniau anweddus o blant.
Dywedodd mewn datganiad i’r heddlu nad oedd ganddo “ddiddordeb mewn plant” ac “nad oedd yn ymwybodol” ei fod wedi creu na lawrlwytho delweddau anweddus o blant.
Ychwanegodd fod y dyfeisiau “wedi cael eu gadael mewn swyddfeydd agored a’u defnyddio gan bobl eraill."
Fe atebodd pob un o gwestiynau’r heddlu gan ddweud “dim sylw”.
Roedd Mr Dawes yn gweithio i BBC Cymru am dros 20 o flynyddoedd ac yn ystod y cyfnod hynny wedi cynhyrchu rhaglenni ar gyfer Radio Cymru.
Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod yr achos llys yn parhau.