Cyn bencampwr cic focsio o Dreforys yn gwadu llofruddio dyn 18 oed

Tyler Ford

Mae cyn-bencampwr cic focsio wedi gwadu iddo lofruddio llanc 18 oed a cheisio llofruddio person arall yn ardal Gorseinion, Abertawe fis Gorffennaf.

Mae Tyler Ford, 18 oed wedi ei gyhuddo o ladd Ceiran Evans, 18 a cheisio llofruddio person arall ac achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol. 

Ymddangosodd Mr Ford, sy'n bencampwr cic focsio naw gwaith, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.   

Plediodd y dyn ifanc o Dreforys, Abertawe yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.  

Ymddangosodd dau ddyn arall, Elliot Truelove, 33 oed, o West Cross, Abertawe, a Liam Thomas, 18 oed, o Dreforys yn y llys hefyd a phledio'n ddieuog i'r un tri chyhuddiad. 

Pleidodd y pedwerydd ddiffynnydd, Trisha Thomas, 36, oed yn ddieuog i gyhuddiad o gynorthwyo troseddwr.  

Ar ran yr erlyniad, dywedodd Matthew Roberts KC wrth y llys y bydd yr achos yn dechrau ar 11 Ionawr 2027.  

"Yn wreiddiol, y disgwyl oedd y byddai'n para am bum wythnos," meddai.

"Ry'n ni'n credu y byddai'n ddoeth i ymestyn hynny i chwe wythnos."

Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â gwrthdrawiad rhwng car a beic ar Ffordd Pen Cae Crwn, Gorseinon, ar 9 Gorffennaf.

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas wrth y diffynyddion  y bydd gwrandawiad arall fis Rhagfyr, a chafodd y pedwar eu cadw yn y ddalfa.   

Wedi ei farwolaeth, dywedodd teulu Ceiran Evans fod y golled y tu hwnt i eiriau: "Roedd Ceiran yn cael ei garu yn fwy nag y gall geiriau ei gyfleu, a bydd yn cael ei golli bob dydd. Roedd ei galon garedig, ei synnwyr digrifwch anhygoel, ei natur gariadus a'i wên bert wedi dod â llawenydd i bawb a oedd yn ei adnabod. 

"Bydd e wastad yn cael ei gofio fel ein bachgen bach gwerthfawr, wastad yn cael ei garu a'i gofio, a chaiff e fyth ei anghofio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.