Y cyn-bêl-droediwrJoey Barton yn gwadu ymosod ar ddyn mewn clwb golff
Mae'r cyn-bêl-droediwr Joey Barton wedi gwadu ymosod ar ddyn mewn clwb golff yng Nglannau Mersi.
Roedd gwrandawiad blaenorol wedi gwrthod mechnïaeth i Barton, ac fe ymddangosodd yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Mawrth trwy gyswllt fideo o Garchar y ddinas ar gyfer gwrandawiad ple.
Ynghyd â'i gyd-ddiffynnydd, Gary O'Grady, sy'n 50 oed, mae Barton wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, gyda'r bwriad i gyn-reolwr pêl-droed amatur Kevin Lynch yng Nghlwb Golff Huyton a Prescot ar 8 Mawrth.
Cafodd Barton, 43 oed ac o Widnes, ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i achos llys ddechrau ar 1 Medi.
Dywedwyd mewn gwrandawiad llys cynharach fod y diffynyddion wedi bod yn yfed gyda Lynch yn y clwb golff cyn yr ymosodiad honedig.
Yn y gwrandawiad cynharach fe ddywedwyd hefyd bod Lynch, sydd hefyd yn sylfaenydd yr ysgol addysg arbennig NexGen Academy, wedi dioddef anafiadau difrifol i'w lygad.
(Llun: PA MEDIA)