Cymru'n curo Ffiji ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd yng Nghaerdydd

Ffiji v Cymru

Fe wnaeth Cymru guro Ffiji 24-39 yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd gan ei bod yn cael ei hystyried yn gêm gartref i Ffiji.

Aeth Ffiji ar y blaen ar ôl tair munud wrth dorri trwy'r amddiffyn a thrafod y bêl yn eu ffordd ddihafal gyda'r blaenasgellwr Sowakula yn croesi a'r maswr Armstrong-Rovula yn trosi. Ffiji 7-0 Cymru.

Ond fe darodd Cymru nôl ar ôl 10 munud gyda'r blaensagellwr Jac Morgan ar waelod y pentwr blaenwyr yn dilyn sgarmes symudol. Ffiji 7-5 Cymru.

Bu'n rhaid i Gymru amddiffyn yn gadarn am gyfnod wedi hynny wrth i Ffiji bwyso ar y llinell gais ar fwy nag un achlysur.

Daeth ail gais i Gymru a Morgan yn yr un modd â'r cyntaf ar ôl 28 munud. Ffiji 7-10 Cymru.

Cafodd y chwarae ei atal am gyfnodau wrth i chwaraewyr Ffiji Radrada a Kovekalou dderbyn triniaeth am anafiadau cyn gorfod gadael y cae wrth i'r hanner cyntaf barhau am bron i awr.

Fe ildiodd Cymru gic gosb yn eiliadau ola'r hanner i roi'r cyfle i Armstrong-Ravula ychwanegu triphwynt i ddod â'r sgôr yn gyfartal.

Y sgôr ar yr hanner: Ffiji 10-10 Cymru.

Fe gymrodd Cymru'r fantais yn gynnar yn yr ail hanner gyda'r prop Rhys Carré yn tirio ar ôl rhediad arweiniol arbennig gan y cefnwr Blair Murray. Fe drosodd y maswr Dan Edwards i ymestyn y fantais. Ffiji 10-17 Cymru.

Cafodd Gymru anrheg ddau funud yn ddiweddarach wrth i Josh Adams ddilyn cic a churo amddiffynnwr cysglyd Ffiji Ravutaumada i dirio'r bêl. Ffiji 10-22.

Ond fe darodd Ffiji nôl ar ôl 49 munud wrth fanteisio ar droseddau gan Gymru gyda'r wythwr Canakaivata yn croesi ac Armstrong-Ravula yn trosi. Ffiji 17-22 Cymru.

Fe lwyddodd Edwards gyda chic gosb i ymestyn blaenoriaeth Cymru. Ffiji 17-25 Cymru.

Fe wnaeth Ravutaumada yn iawn am ei gamsyniad yn gynharach wrth groesi am drydydd cais Ffiji ar ôl 53 munud gydag Armstrong Ravula yn trosi eto. Ffiji 24-25 Cymru.

Fe sgoriodd yr eilydd Ryan Elias yn dilyn symud grymus gan y blaenwyr o lein gyda Sam Costelow yn trosi. Ffiji 24-32 Cymru.

Fe seliodd Cymru'r fuddugoliaeth gyda chais gan y canolwr Eddie James gyda Costelow yn trosi yn yr eiliadau olaf.

Y sgôr terfynol Ffiji 24-39 Cymru.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.