'Cymru wedi colli un o'i heiconau mwyaf': Y gantores Bonnie Tyler wedi marw yn 75 oed

Bonnie Tyler

Mae’r gantores fyd enwog o Gymru, Bonnie Tyler, wedi marw yn 75 oed.

Roedd Bonnie Tyler, a gafodd ei geni yn Gaynor Hopkins, ym mhentref Sgiwen ger Castell-nedd, yn un o leisiau mwyaf adnabyddus cerddoriaeth bop Prydain.

Daeth yn enwog ledled y byd am ganeuon fel 'Total Eclipse of the Heart’, ‘It’s A Heartache’ a ‘Holding Out For A Hero’.

Dywedodd datganiad ar wefan y gantores fore Iau: “Mae’n torri calonnau teulu a thîm Bonnie i gyhoeddi ei bod wedi ein gadael yn annisgwyl neithiwr mewn ysbyty ym Mhortiwgal o ganlyniad i salwch yr oedd yn cael ei thrin amdano.

“Byddwn yn rhannu datganiad ehangach yn y man ond nawr, hoffwn ofyn am breifatrwydd tra ein bod yn ymdopi â’r drasiedi hwn.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "drist iawn clywed am farwolaeth Bonnie Tyler".

"Mae Cymru wedi colli un o'i heiconau mwyaf, a ddaeth â llawenydd i gynulleidfaoedd ledled y byd drwy ei cherddoriaeth," meddai.

"Rwy'n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf at ei theulu, ei ffrindiau a'i chefnogwyr.”

Dywedodd Downing Street fod Syr Keir Starmer yn drist o glywed am farwolaeth seren bop o Gymru.

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog: “Mae’r Prif Weinidog yn drist iawn o glywed am farwolaeth Bonnie Tyler, un o artistiaid recordio mwyaf Prydain.

“Fel ffigwr eiconig, mae hi’n gadael ar ei hôl gatalog o gerddoriaeth, o Total Eclipse Of The Heart i Holding Out For A Hero, sy’n parhau i gyffwrdd bywydau, llenwi lloriau dawnsio a llenwi bythau karaoke.

“Mae meddyliau’r Prif Weinidog gyda’i ffrindiau a’i theulu.”

Gwobrau

Cafodd Bonnie Tyler ei magu gyda chariad at gerddoriaeth, ac fe gafodd ei darganfod gan y sgowt talent Roger Bell mewn clwb yn Abertawe.

Yn 1983, fe gyrhaeddodd ‘Total Eclipse of the Heart’ rif un yn y siartiau, gan ddod yn un o ganeuon mwyaf adnabyddus yr 1980au.

Roedd ganddi bedair cân arall yn y deg uchaf, gan gynnwys ‘It’s A Heartache’ a ‘Holding Out For A Hero’.

Yn ystod ei gyrfa, cafodd ei henwebu deirgwaith am wobrau Grammy a Brit.

Fe wnaeth hefyd gynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth Eurovision yn 2013.

Yn 2022, cafodd ei phenodi’n MBE ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i fyd cerddoriaeth.

Yn gynharach eleni, fe gyrhaeddodd ‘Total Eclipse of the Heart’ garreg filltir o biliwn o ffrydiau digidol ar Spotify.

Roedd Bonnie Tyler yn byw yn ardal yr Algarve ym Mhortiwgal.

Cafodd ei chludo i ysbyty yn Faro ym mis Mai ar gyfer llawdriniaeth frys ar ei choluddyn, cyn cael ei rhoi mewn coma gan feddygon i’w helpu i wella.

Fe ddaeth allan o’r coma yn ddiweddarach, ond roedd yn parhau’n ddifrifol wael mewn uned gofal dwys.

Teyrngedau

Dywedodd y cyflwynydd radio Owen Money wrth y BBC iddo ei hadnabod ers cyn iddi fod yn enwog, ar ddiwedd y 60au pan oedd hi’n dechrau arni yn Abertawe.

“Dw i mewn sioc, alla i ddim credu’r peth. Roedd hi’n ffan enfawr o fy sioe i, ac roeddwn i’n ffan enfawr ohoni hithau," meddai.

“Nid ffrindiau yn unig oedden ni, roedden ni’n ffans o’n gilydd. Roedd hi’n dal yn enfawr yn Ewrop, yn yr Almaen ac yn yr Iseldiroedd. Roedd hi mor dda. Mae hi’n eicon Cymreig.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru, elusen oedd yn cael ei chefnogi gan Bonnie Tyler, fod y gantores wedi “dod â llawenydd” pan ymwelodd â’i phencadlys yn Llanelli yn gynharach eleni.

Dywedodd yr elusen: “Fe wnaeth Bonnie gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru am flynyddoedd lawer, gan ein helpu i wneud gwahaniaeth parhaol i gleifion ar draws Cymru.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am yr amser a’r egni a rannodd gyda ni. Roedd hi'n eicon byd-eang oedd yn angerddol dros Gymru a’i phobl.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Bonnie, ei ffrindiau a phawb oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu.”

Dywedodd Helen Ceri Clarke, sy’n cynrychioli pentref cartref Bonnie Tyler, Sgiwen, ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fod pobl leol yn dal i rannu straeon ac atgofion am y gantores.

“Rwy’n meddwl bod pobl y pentref wastad wedi bod yn falch iawn ohoni, ac mae hi wastad wedi bod yn falch iawn o ddod o Sgiwen," meddai.

“Mae hi wastad wedi dweud mai o Sgiwen mae hi’n dod, yn hytrach na Chastell-nedd.

“Mae gan lawer o bobl straeon amdani, yn enwedig y genhedlaeth hŷn.

“Mae’n bentref eithaf mawr erbyn hyn, ond roedd yn bentref llai bryd hynny.

“Mae hi wedi gwneud yn dda iawn, iawn drosti ei hun... Llais gwirioneddol anarferol, unigryw a gwych, a dweud y gwir.

“Mae’n drueni... Mae’n ifanc iawn, a dweud y gwir. Dydy 75 ddim yn oed y dyddiau yma.”

Dywedodd Alan Lockyer, maer Castell-nedd Port Talbot, a Steve Hunt, arweinydd y cyngor, fod pobl leol yn “trysori” Bonnie Tyler.

Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedon nhw: “Rydyn ni’n drist iawn o glywed am farwolaeth Bonnie Tyler.

“Gan ddechrau ei gyrfa fel Gaynor Hopkins, merch ifanc dalentog o Sgiwen, roedd ei thaith i enwogrwydd ledled y byd yn ysbrydoliaeth i gynifer.

“Eleni roedd yn 15 mlynedd ers i Bonnie dderbyn Rhyddid Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot mewn seremoni yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, i gydnabod ei chyfraniad eithriadol i’r diwydiant cerddoriaeth, yn ogystal â bod yn llysgennad byd-eang dros yr ardal.

“Er ei bod wedi byw dramor ers blynyddoedd lawer, roedd Bonnie Tyler bob amser yn siarad yn gynnes iawn am ei gwreiddiau, ac roedd hi’n parhau i fod yn ffigwr oedd yn cael ei thrysori a’i dathlu yn lleol.

“Mae ein meddyliau gyda theulu Gaynor a miliynau o ffans Bonnie Tyler ledled y byd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.