Cymru yn siarad ‘ag un llais’ ar ddatganoli meddai Rhun ap Iorwerth wrth Andy Burnham
Mae Cymru wedi siarad “ag un llais” ar ddatganoli grymoedd dros heddluoedd, cyfiawnder ac Ystad y Goron meddai’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth.
Mewn erthygl yn amlinellu yr hyn a fydd yn ei drafod gyda’r darpar Brif Weinidog, Andy Burnham dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedden nhw’n “alwadau pleidiol cul”.
Dywedodd ei fod yn croesawu dyfodiad Prif Weinidog y DU oedd o blaid datganoli ond nad oedd “modd i dôn newydd o ddatganoli” i Loegr “dorri ar Glawdd Offa”.
Mae Andy Burnham wedi dweud ei fod am ddatganoli grymoedd ledled y DU ond heb fynd i fanylder ar gyfer ei gynlluniau ar gyfer Cymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth mewn darn barn ar wefan Nation.Cymru y “dylai trosglwyddo pwerau dros blismona, cyfiawnder, Ystad y Goron a’r rheilffyrdd fod yn gam naturiol nesaf i unrhyw Brif Weinidog sydd eisiau dangos ei ymrwymiad i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau”.
“Mae pob cyngor yng Nghymru yn cefnogi datganoli Ystad y Goron,” meddai.
“Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid diwygio Fformiwla Barnett. Mae Comisiwn Thomas a’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi cyflwyno’r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona.
“Nid galwadau pleidiol cul mo’r rhain, ond materion y mae Cymru wedi siarad ag un llais arnynt. A phan mae hynny’n digwydd, mae ein llais yn dod yn anos i San Steffan ei anwybyddu.
“Fy marn ddiffuant i yw bod cael rhywun sy’n credu’n gryf mewn datganoli yn Rhif 10 yn cynnig gobaith o ail-lunio’r DU.
“Ond mae’n rhaid i hynny olygu nid yn unig symud grym allan o Lundain i ranbarthau Lloegr, ond i’r seneddau cenedlaethol hefyd.
“Os yw Andy Burnham am ddangos ei ymrwymiad llawn i’r egwyddor o sybsidiaredd, yna mae’n rhaid grymuso ein Senedd, nid ei hosgoi.”
‘Gwaelod i fyny’
Yn ei araith fawr gyntaf ddechrau’r mis ers lansio ei ymgais i gymryd lle Syr Keir Starmer, fe wnaeth Burnham addo ailddosbarthu grym ar draws y DU.
Dywedodd y byddai’n defnyddio’r hyn roedd wedi ei ddysgu dros bron i ddegawd fel Maer Manceinion Fwyaf i ledaenu llwyddiant i “bob côd post yn y DU”.
Yn ganolog i’r cynllun hwnnw roedd ymrwymiad i ddatganoli grym i gymunedau lleol ac i ffwrdd oddi wrth uwch weision sifil yn Whitehall, oedd, meddai, wedi “rhwystro” cynnydd ym Manceinion.
“Mae’n bryd i Whitehall dderbyn nad oes modd gorchymyn twf o’r brig i lawr. Dim ond o’r gwaelod i fyny y mae modd ei feithrin,” meddai.
Er na wnaeth Burnham nodi’n union pa bwerau allai gael eu rhoi i ba ardaloedd, fe awgrymodd y gallai rhanbarthau ddisgwyl gweld “mwy o reolaeth gyhoeddus dros wasanaethau hanfodol” fel dŵr, ynni a thrafnidiaeth.
Fe wnaeth hefyd addo cyflwyno’r rhaglen fwyaf i adeiladu tai cyngor ers y cyfnod ar ôl y rhyfel, gan ganolbwyntio ar addysg ôl-16, a rhoi mwy o bŵer i feiri er mwyn sicrhau eu bod yn “tyfu gweithlu” sy’n cyd-fynd â’r farchnad swyddi yn eu hardal.
Awgrymodd hefyd greu tîm newydd yn Downing Street wedi ei leoli ym Manceinion, gyda’r enw ‘Rhif 10 y Gogledd’.