Cymru Premier JD: Y Seintiau yn teithio i Fae Colwyn
Wyth rownd o gemau sydd ar ôl i’w chwarae yn nhymor y Cymru Premier JD ac mae’r Seintiau Newydd 10 pwynt yn glir ar frig y tabl ac yn agosáu at eu pumed bencampwriaeth yn olynol.
Yn y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop, mae Cei Connah 10 pwynt uwchben Pen-y-bont ar ôl mynd ar rediad rhyfeddol o 16 gêm gynghrair heb golli.
Lawr yn y Chwech Isaf, a triphwynt yn unig sy’n gwahanu Hwlffordd, Met Caerdydd, Llansawel a’r Fflint yn y frwydr i orffen yn 7fed a chyrraedd y gemau ail gyfle.
Bae Colwyn (5ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl chwalu Pen-y-bont o 6-0 ddydd Sadwrn mae’r Seintiau bellach wedi ennill saith o’u wyth gêm ddiwethaf, a gyda rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG i’w ddod ar ddiwedd y mis, bydd cewri Croesoswallt yn anelu i gwblhau dwbl domestig am y pumed tymor o’r bron.
Dyw Bae Colwyn erioed wedi curo’r Seintiau, ac fe sgoriodd Jordan Williams yn y ddwy gêm yn erbyn y Gwylanod yn rhan gynta’r tymor wrth i’r Seintiau ennill o 1-0 yn Neuadd y Parc yn dilyn gêm gyfartal 1-1 yn Ffordd Llanelian.
Y Seintiau Newydd (0.8 gôl y gêm) yw’r unig glwb i ildio llai o goliau na Bae Colwyn y tymor hwn (1.1 gôl y gêm), ond dyw record ymosodol y Gwylanod ddim yn wych gan mae dim ond y ddau isaf sydd wedi sgorio llai na thîm Michael Wilde.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅❌❌➖✅
Y Seintiau Newydd: ❌✅✅✅✅
Met Caerdydd (8fed) v Llanelli (12fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Met Caerdydd yn dechrau’r penwythnos un pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle.
Ers curo 10-dyn Llanelli o 2-1 ar y 5ed o Ragfyr, dyw’r myfyrwyr heb ennill mewn saith o gemau, a bydd Ryan Jenkins yn awyddus i ddod â’r rhediad hwnnw i ben nos Wener.
Dyw Met Caerdydd m’ond wedi sgorio dwy gôl yn eu pum gêm ddiwethaf, a’u prif sgoriwr Lifumpa Mwandwe sgoriodd y ddwy gôl rheini.
Mae Met Caerdydd wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Llanelli, a Lifumpa Mwandwe oedd seren y sioe yn y fuddugoliaeth o 2-1 ym mis Rhagfyr, yn sgorio gôl safonol ac yn cael y gorau o gapten y Cochion, Sean Cronin, a gafodd ei hel o’r cae am dderbyn dau gerdyn melyn wedi dau drosedd hwyr ar yr asgellwr chwim.
Mae Llanelli 19 pwynt o dan ddiogelwch y 10fed safle gyda dim ond 24 pwynt posib ar ôl i’w hennill, ac ar ôl cipio dim ond un pwynt o’u 14 gêm gynghrair ddiwethaf mae tîm Terry Boyle mewn perygl o golli eu lle yn yr uwch gynghrair cyn diwedd mis Chwefror.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌➖➖❌➖
Llanelli: ❌❌❌❌❌
Hwlffordd (7fed) v Y Bala (11eg) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl colli dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf, mae Hwlffordd wedi codi i’r 7fed safle (ennill 4, cyfartal 2).
Mae’r Adar Gleision wedi cadw pedair llechen lân yn eu pum gêm ddiwethaf wrth i dîm Tony Pennock lygadu eu lle yn y gemau ail gyfle.
Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ond Hogiau’r Llyn sy’n cadw cwmni i Lanelli yn safleoedd y cwymp, driphwynt y tu ôl i’r Fflint (10fed).
Dyw’r Bala m’ond wedi ennill un o’u naw gêm ddiwethaf, ond rhywsut, nhw sydd â’r record amddiffynnol orau ymysg timau’r Chwech Isaf (ildio 1.5 gôl y gêm).
Enillodd Hwlffordd o 2-0 yn eu dwy gêm yn erbyn Y Bala yn rhan gynta’r tymor a dyw’r Adar Gleision heb golli yn eu chwe gornest flaenorol yn erbyn Y Bala, gan gadw llechen lân ym mhump o’r chwe gêm rheiny (ennill 4, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅➖❌✅✅
Y Bala: ❌❌✅❌➖