Cymru Premier JD: Caernarfon yn herio'r Seintiau Newydd

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
CPD Caernarfon

Yn yr unig gêm yn y Cymru Premier JD nos Wener, fe fydd Caernarfon yn croesawu'r pencampwyr, Y Seintiau Newydd, i'r Stadiwm Go Goodwins yn Llandudno.

Mae Caernarfon wedi llithro i’r 6ed safle ar ôl ennill dim ond un o’u wyth gêm gynghrair yn 2026, ac ennill dim ond dwy o’u 14 gêm gynghrair ddiwethaf.

Bydd y Cofis yn cystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed ar 12 Ebrill, a byddai ennill y cwpan yn caniatáu i’r Caneris chwarae’n Ewrop y tymor nesaf.

Ond gyda’r rhediad cynghrair yn wan, bydd y Cofi Army ychydig yn betrusgar cyn wynebu’r Fflint yn y ffeinal, sef yr unig dîm sydd heb golli yn y gynghrair ers yr hollt.

Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol.

Ond er y llwyddiant yn y gynghrair, mae’n bosib y bydd eleni’n cael ei gyfri fel tymor siomedig i’r Seintiau gan mae dim ond un tlws fydd yn mynd i Groesoswallt, a’u bod wedi cyflawni o leiaf dwbl domestig mewn 10 o’u 12 tymor blaenorol.

Mae carfan Caernarfon yn llawn o gyn-chwaraewyr y Seintiau, sy’n cynnwys tri chwaraewr sydd ar fenthyg o Neuadd y Parc eleni, ac felly fydd yn anghymwys i chwarae nos Wener (Sion Bradley, Josh Lock, Zack Clarke).

Ond bydd nifer o gyn-Seintiau eraill ar gael fydd yn awyddus i adael eu marc ar y gêm, fel Connor Roberts, Adrian Cieslewicz, Daniel Gosset a Brad Young.

Bydd hi’n dipyn o dasg i’r Cofis gan fod y Seintiau wedi ennill 18 o’u 19 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, yn cynnwys pedair buddugoliaeth y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ͏❌❌✅❌❌

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.