Cymru Premier: Bae Colwyn yn croesawu Cei Connah i Ffordd Llanelian
Bydd Bae Colwyn yn croesawu Cei Connah i Ffordd Llanelian yn yr un unig gêm yn y Novira Cymru Premier ddydd Sadwrn.
Bydd y gwylanod braidd yn siomedig o fod yn eistedd yn hanner isa’r tabl yn y nawfed safle ar ôl y saith gêm agoriadol, a bydd angen gwella’r canlyniadau os am gyrraedd y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol.
Er gwaetha’r gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd nos Wener ddiwethaf, mae Cei Connah wedi cychwyn yn gryf, ac mae’r Nomadiaid yn dechrau’r penwythnos driphwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd, yn y trydydd safle.
Mae Cei Connah yn un o’r tri o dimau i sgorio 18 o goliau yn eu saith gêm agoriadol, ac mae Callum West wedi serennu fel prif grêwr y gynghrair (6), yn ogystal â sgorio pedair o goliau ei hun.
Fe wnaeth y clybiau gyfarfod bedair gwaith y tymor diwethaf, ac fe orffennodd tair o’r gemau rheiny’n gyfartal, ond dyw Bae Colwyn erioed wedi curo Cei Connah yn y gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏❌✅❌✅❌
Cei Connah: ͏✅✅✅✅➖
