Cymru yn fuddugol yn erbyn Albania yn eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd
Mae Cymru wedi ennill 1-0 yn erbyn Albania yn Elbasan nos Sadwrn, gan eu rhoi yn ail yn eu gr诺p rhagbrofol Cwpan y Byd.
Ddyddiau鈥檔 unig ar 么l buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Albania ar gae鈥檙 ST艒K Cae Ras, roedd t卯m Rhian Wilkinson yn wynebu'r un gwrthwynebwyr eto.
Sophie Ingle oedd y capten wrth iddi ennill ei 150fed cap dros ei gwlad - yr ail chwaraewr yn unig i wneud hynny ar 么l Jess Fishlock.
Roedd ychydig o oedi ar gychwyn y g锚m oherwydd problem gyda鈥檙 cae, gyda鈥檙 gic gyntaf 10 munud yn hwyr.
Yn wahanol i鈥檙 g锚m yn Wrecsam ddydd Mawrth, fe ddechreuodd Cymru'n araf.
Newidiodd hynny wedi 10 munud wrth i Gemma Evans ddod o hyd i Mared Griffiths, ond roedd ergyd y chwaraewr ifanc o Drawsfynydd at g么l yn wan.
Roedd chwarae Cymru yn parhau鈥檔 ddigon diflas, ond wedi 27 munud fe ddaeth unig g么l y g锚m drwy Rachel Roberts.
Roedd hi ar ddiwedd croesiad Lily Woodham wrth i鈥檞 hergyd ddod o hyd i gefn y rhwyd.
Ar achlysur ennill ei 150fed cap, roedd Sophie Ingle yn meddwl ei bod wedi dyblu mantais Cymru gyda pheniad i gefn y rhwyd, ond roedd y llumanwr yn dyfarnu ei bod yn camsefyll.
Ni chafodd yr un t卯m gyfleoedd eraill yn yr hanner cyntaf. 1-0 i Gymru ar yr egwyl.
Bu bron i Sophie Ingle sgorio wedi 52 munud, ond roedd ei hergyd o fewn y cwrt 18 yn syth at y golwr.
Fe gafodd Albania eu cyfle gorau funud yn ddiweddarach, ond nid oedd Fortesa Berisha yn gallu dod o hyd i'w chyd-chwaraewyr gyda'i chroesiad.
Wrth i'r ail hanner fynd yn ei flaen, Albania oedd yn edrych fwyaf tebygol o sgorio.
Bu bron iddyn nhw unioni'r sg么r trwy ergyd Ilarja Zarka, ond roedd ei hergyd wedi taro yn erbyn y trawst.
Roedd y 15 munud olaf yn heriol i Gymru wrth i Albania wthio i unioni'r sg么r.
Fe gafodd Berisha gyfle da eto wedi 85 munud, ond roedd golwr Cymru Safia Middleton-Patel wedi arbed ei hergyd.
Bydd Cymru yn wynebu Tsiecia a Montenegro nesaf ym mis Mehefin yn eu gemau olaf yn eu hymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd.