Cymeradwyo cynlluniau i 'ddatgarboneiddio' amgueddfa lofaol Pwll Mawr
Mae Amgueddfa Lofaol Cymru wedi penderfynu rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil er mwyn cynnal y safle, gan ddefnyddio dulliau “gwyrdd” yn lle.
Fe ddaeth Pwll Mawr ym Mlaenafon yn Sir Torfaen yn amgueddfa lofaol yn yr 1980au.
Roedd yn bwll glo gweithredol hyd at ddechrau’r 80au, gyda 250 o bobl wedi colli eu swyddi pan gafodd ei gau.
Yn 2000, fe enillodd y safle statws Treftadaeth y Byd gan gorff diwylliannol y Cenhedloedd Unedig, UNESCO.
Dros gyfnod o tua 200 o flynyddoedd fe wnaeth Pwll Mawr ddarparu miliynau o dunelli o lo ledled y byd.
Ond mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru, sydd yn berchen ar yr amgueddfa, bellach wedi cyhoeddi eu bod yn symud i ffwrdd o ddulliau traddodiadol o gynnal y safle.
Fel rhan o gynlluniau i’w ddatgarboneiddio fe fydd ffynonellau egni “gwyrdd” yn cael eu gosod, gan gynnwys pum pwmp gwres.
Mae’r cynlluniau wedi’i cymeradwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Dywedodd y swyddog cynllunio, Mia McAndrew, yn ei hadroddiad y byddai’r newidiadau yn helpu datgarboneiddio Pwll Mawr “drwy leihau allyriadau carbon deuocsid".
Mae cynlluniau i ddymchwel ac ail-osod rhan o adeilad a gafodd ei osod fel rhan o estyniad ar adeilad rhestredig, sef y Tŷ Ffan a Chywasgydd, hefyd wedi’i cymeradwyo.
Mae’r gwaith hefyd wedi’i gymeradwyo gan gorff Cadw, yn ogystal â swyddog treftadaeth y cyngor. Mae caniatâd ar gyfer adeilad rhestredig hefyd wedi’i roi.