Cymeradwyo cynlluniau i adeiladu fflatiau a swyddfeydd ar safle hen ysgol ysgol uwchradd Gymraeg

Ysgol Dyffryn Teifi

Mae cynlluniau i adeiladu 11 o gartrefi newydd a swyddfeydd ar safle hen ysgol uwchradd Gymraeg yng Ngheredigion wedi cael eu cymeradwyo, ond ni fydden nhw'n cael eu dynodi'n gartrefi fforddiadwy.

Fe wnaeth Dyffryn Teifi Developments Ltd, drwy ei asiant JMS Planning and Development, gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y cam diweddaraf i ailddatblygu hen safle Ysgol Dyffryn Teifi, ar Heol Llyn y Fran yn Llandysul.

Daeth argymhelliad i gymeradwyo'r cais yng nghyfarfod Pwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion ar 11 Tachwedd.

Fe wnaeth Ysgol Dyffryn Teifi gau yn 2016 ar ôl adeiladu Ysgol Bro Teifi, ac mae’r safle bellach yn cael ei hail-ddatblygu ar gyfer defnydd preswyl.

Yn 2024 cafodd cynllun ar gyfer 30 o gartrefi ei gymeradwyo oedd yn cynnwys chwe chartref fforddiadwy i’w gwerthu am bris wedi'i ostwng.

Yn 2025, fe gafodd cynllun arall ar gyfer 15 o gartrefi ei gymeradwyo, gan gynnwys pump drwy addasu hen dŷ'r ysgol.

Roedd y cynllun hwnnw hefyd yn cynnwys pedwar cartref fforddiadwy ychwanegol i’w gwerthu am bris gostyngol.

Yn ôl adroddiad swyddogion, byddai’r cynllun diweddaraf yn creu 11 o gartrefi a phedair swyddfa drwy addasu adeilad gwag yn hen safle’r ysgol, gan ychwanegu at y gwaith ailddatblygu sydd eisoes wedi’i wneud.

Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi ar gyfer defnydd busnes a chyflogaeth ar y safle.

Byddai’r cynllun newydd yn darparu fflatiau ag un neu ddwy ystafell wely.

Image
Cynlluniau safle Ysgol Dyffryn Teifi
Llun: Cyngor Sir Ceredigion

Roedd yr adroddiad yn nodi bod hen safle’r ysgol yn cael ei adnabod fel “lleoliad ar gyfer tai a gwaith ailddatblygu cymunedol yn y dyfodol ar ôl symud yr ysgol”.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae angen 442 o gartrefi ar Grŵp Aneddiadau Llandysul. 

O’r cyfanswm hwnnw, mae 210 eisoes wedi’u hadeiladu ac mae caniatâd cynllunio ar gyfer 183 arall, gan olygu bod angen 51 o gartrefi yn ychwanegol o hyd. 

Mae angen 71 o gartrefi yn ardal canolfan gwasanaethau trefol Llandysul.

Fe gafodd aelodau’r pwyllgor wybod y byddai disgwyl i’r cynllun gynnwys 20% o dai fforddiadwy ar y safle. 

Ond yn ôl asesiad hyfywedd ariannol yr ymgeisydd, byddai darparu’r tai hyn yn gwneud y cynllun yn anhyfyw yn ariannol.

Clywodd y pwyllgor y byddai amod i’r cynllunio, sef yr amod ‘Grampian’, yn atal unrhyw un rhag symud i’r cartrefi cyn 31 Rhagfyr. 

Y rheswm am hynny yw nad yw Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llandysul yn bodloni gofynion ei drwydded ar gyfer Llif a Drosglwyddir Ymlaen (FPF).

Mae disgwyl i waith Dŵr Cymru i ddatrys y broblem gael ei gwblhau erbyn hynny.

Cafodd y cais ei gymeradwyo gan aelodau’r pwyllgor yn ddibynnol ar yr amodau cynllunio.

Roedd cam datblygu 2025 hefyd yn cynnwys ffordd ystâd newydd, a fyddai’n rhoi mynediad at Heol Llyn y Fran ac yn cael ei hadeiladu i safonau ffyrdd wedi eu mabwysiadu.

Llun: Cyngor Sir Ceredigion

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.