Cyhuddo seithfed person wedi i ddau fachgen o Gaerdydd gael eu harestio yng Ngwlad Thai
Mae seithfed person wedi’i gyhuddo ar ôl i ddau fachgen 17 oed o Gaerdydd gael eu harestio yng Ngwlad Thai.
Fe wnaeth Heddlu'r De ddechrau ymchwiliad ym mis Mehefin wedi iddi ddod i'r amlwg fod dau fachgen 17 oed o Gaerdydd wedi cael eu harestio yng Ngwlad Thai.
Fe gafodd yr ymchwiliad ei lansio i'r amgylchiadau a arweiniodd at y bobl ifanc yn teithio i'r wlad.
Mae Carrie-Anne Dreyer, 39, o Lanilltud Fawr, wedi ei chyhuddo o gynllwynio yn dwyllodrus i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, a phedwar cyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio.
Mae hi’n parhau yn y ddalfa ac fe fydd hi’n ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Iau.
Y chwe pherson arall sydd eisoes wedi’u cyhuddo ac wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â’r ymchwiliad yw:
- Tremaine Jeanne, 28, o Lanrhymni
- Jessica Sani, 28, o Gasnewydd
- Levi Mohamed, 20, o Drebiwt
- Patrick O’Driscoll, 30, o Gaerau
- Gareth Press, 42, o Drelái
- Ffion Bowes-Cavanagh Hooley, 24, o Gaerau
Mae'r ddau fachgen 17 oed yn parhau yn y ddalfa yng Ngwlad Thai ac yn cael eu cefnogi gan eu teuluoedd a'r Swyddfa Dramor.
Llun: Pattaya, Gwlad Thai (Don Ramey Logan)