Cyhuddo pump yn eu harddegau wedi tân mewn adeilad hanesyddol
Mae pump o bobl yn eu harddegau wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â thân mewn adeilad rhestredig Gradd II yng Nghwm Nedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Dŷ Rheola rhwng Glyn-nedd a Resolfen tua 16.50 ddydd Mawrth.
Wedi'i ddylunio gan y pensaer Fictorianaidd John Nash, fe adeiladwyd y tŷ bonedd rhwng 1812 a 1814 ar gyfer cefnder Nash, John Edwards.
Dywedodd yr heddlu ddydd Iau fod pump o bobl rhwng 17 a 19 oed wedi cael eu cyhuddo.
Mae Kyle Renzoni, 18 oed, o Langatwg, Castell-nedd Port Talbot, wedi cael ei gyhuddo o losgi bwriadol gan fod yn ddi-hid ynghylch a oedd bywyd mewn perygl, yn ogystal â bod â llafn cyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Mae Ellis Harding, 19 oed, o Gendros yn Abertawe, Yian Foster, 18 oed, o Resolfen yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac Evan Traynor, 18 oed, o Waunarlwydd, Abertawe, wedi cael eu cyhuddo o losgi bwriadol gan fod yn ddi-hid ynghylch a oedd bywyd mewn perygl.
Mae bachgen 17 oed o Ddowlais ym Merthyr Tudful hefyd wedi cael ei gyhuddo o losgi bwriadol gan fod yn ddi-hid ynghylch a oedd bywyd mewn perygl.
Ymddangosodd y pump ohonynt gerbron Llys Ynadon Abertawe fore Iau.
Llun gan 'Abandoned Welsh Seekers'.
