Cyhuddo dynion o ddefnyddio bechgyn o Gaerdydd i gludo cyffuriau o Wlad Thai

Pattaya, Gwlad Thai. Llun: Don Ramey Logan
Pattaya, Gwlad Thai

Mae tri dyn wedi'u cyhuddo o gludo pobl ifanc i Wlad Thai fel rhan o rwydwaith cyffuriau rhyngwladol. 

Fe wnaeth Levi Coomansingh, 20 oed, Patrick O’Driscoll, 30 oed, a Gareth Press, sy'n 42 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, wedi'u cyhuddo o droseddau cyffuriau a chynllwynio i gludo person arall at ddibenion camfanteisio.

Clywodd y llys fod y dynion yn cael eu cyhuddo o ddefnyddio dau fachgen yn eu harddegau i gludo cyffuriau, ar ôl i'r bechgyn gael eu dal yn honedig yn cario 64kg o ganabis a oedd wedi'i "guddio yn eu cesys dillad" wrth geisio teithio'n ôl i Brydain.

Cafodd dau berson 17 oed o Gaerdydd eu harestio yng Ngwlad Thai ym mis Mehefin ac maent yn parhau yn y ddalfa, yn ôl Heddlu De Cymru.

Arestio

Dywedodd Nicholas Evans ar ran yr erlyniad fod yr ymchwiliad i "rwydwaith troseddol trefnedig" oedd yn gweithredu rhwng y DU a Gwlad Thai wedi arwain at arestio'r dynion yn gynharach yr wythnos hon.

Mae Levi Mohamed, 20 oed, o Drenewydd, Caerdydd, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, a phedwar cyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio.

Mae Patrick O’Driscoll, 30 oed, o’r Tyllgoed, Caerdydd, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, pedwar cyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio, a bod â dryll yn ei feddiant.

Mae Gareth Press, 42 oed, o Drelái, Caerdydd, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, a dau gyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio.

Fe wnaeth y tri dyn ymddangos yn y doc gyda'i gilydd ac ni ofynnwyd iddynt nodi eu ple.

Llys y Goron

Dywedodd yr Ynad Peter Walsh: “Mae'n rhaid i'r materion hyn fynd i Lys y Goron Caerdydd. Bydd eich ymddangosiad nesaf ar y 4ydd o Fedi.

“Cewch eich cadw yn y ddalfa.”

Fe wnaeth Ffion Bowes-Cavanagh Hooley, 24 oed, o Gaerau, Caerdydd, ymddangos yn y llys hefyd ddydd Gwener, wedi’i chyhuddo o gynllwynio i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur Dosbarth B ac o guddio eiddo troseddol.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar yr un dyddiad a'r tri dyn arall.

Ym mis Mehefin, cafodd Heddlu De Cymru wybod bod dau berson 17 oed o Gaerdydd wedi cael eu harestio yng Ngwlad Thai.

Yn dilyn hynny, lansiodd yr heddlu ymchwiliad i'r amgylchiadau a arweiniodd at y bobl ifanc yn teithio i'r wlad.

Bechgyn yn y ddalfa

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Mae'r bobl ifanc yn parhau i fod yn y ddalfa yng Ngwlad Thai, lle maent yn cael cefnogaeth gan eu teuluoedd a'r Swyddfa Dramor.

“Mae'r teuluoedd wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr arestiadau a'r cyhuddiadau.

“Rydym yn deall bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod pryderus iddynt hwy ac i'r gymuned ehangach.”

Cafodd dyn 23 oed o Keighley, Gorllewin Sir Efrog, ei arestio hefyd ar amheuaeth o fewnforio cyffuriau yn anghyfreithlon, ac mae ar fechnïaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.