Cyhuddo dyn ar ôl darganfod 'arfau anghyfreithlon' yn Abergwynfi

Abergwynfi

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo ar ôl i nifer o 'arfau anghyfreithlon' gael eu darganfod mewn tŷ yn Abergwynfi, Castell-nedd Port Talbot yr wythnos hon.

Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad ar Stryd Commercial yn y pentref ar ôl derbyn galwad tua 21.30 ddydd Sul diwethaf.

Mae Maximin Carter o Flaengwynfi bellach wedi cael ei gyhuddo o gael arf ymosod yn ei feddiant mewn man preifat a chael arf wedi'i wahardd yn ei feddiant hefyd. 

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn y llys ddydd Mercher. 

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymwybodol o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn awgrymu fod Carter wedi ei ryddhau ar ôl cael ei arestio'n gynharach dros y penwythnos, ond fe ychwanegon nhw fod hyn yn anghywir. 

Mae'r llu yn cynghori'r cyhoedd i fod yn ofalus wrth rannu gwybodaeth o ffynonellau sydd heb eu gwirio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.