Corff wedi rhyddhau data staff ar gam wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ryddhau data tua 2,000 o staff drwy gamgymeriad wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth.
Ddydd Gwener dywedodd y corff amgylcheddol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru eu bod nhw wedi hysbysu cyn-weithwyr a gweithwyr presennol o achos o dor ddiogelwch data personol oedd yn ymwneud â gwybodaeth amrywiaeth gweithwyr.
Wrth ymateb i gais pellach am sut y cyhoeddwyd y data, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod wedi ei gyhoeddi yn 2021 “wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth”.
“Roedd y data’n ymwneud â thua 2,000 o weithwyr presennol a chyn-weithwyr,” medden nhw.
“Rydyn ni’n ysgrifennu at y rhai sydd wedi’u heffeithio ac wedi ymrwymo i’w cefnogi.
“Rydyn ni wedi cynnal ymchwiliad llawn ac yn parhau i adolygu ein prosesau a’n mesurau rheoli er mwyn helpu i atal hyn rhag digwydd eto.
“Er nad ydyn ni’n ymwybodol o unrhyw dystiolaeth bod y wybodaeth wedi cael ei chamddefnyddio, rydyn ni’n annog unigolion i fod yn wyliadwrus am unrhyw ohebiaeth annisgwyl ac i roi gwybod am unrhyw bryderon.”
'Ymddiheuro'n ddiffuant'
Yn y datganiad ddydd Gwener dywedodd y corff bod y data yn ymwneud a’r cyfnod Ebrill 2013 hyd at Fawrth 2018.
“Yn dilyn ymchwiliad, fe wnaethom nodi bod taenlen a oedd yn cynnwys gwybodaeth am weithwyr wedi'i datgelu yn anfwriadol,” medden nhw.
“Mae'n bosibl bod y wybodaeth yn cynnwys data personol a oedd yn ymwneud â monitro amrywiaeth, megis ethnigrwydd, statws anabledd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, gallu yn y Gymraeg, cyfrifoldebau gofalu a gwybodaeth monitro cydraddoldeb arall.
“Nid yw pob categori o ddata yn berthnasol i bob unigolyn.
“Rydym yn ymddiheuro yn ddiffuant bod hyn wedi digwydd ac yn cydnabod y pryder a'r ansicrwydd y gallai ei achosi i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
“Cyn gynted ag y daethom yn ymwybodol o'r mater, cymerwyd camau gennym ar unwaith i gadw’r digwyddiad dan reolaeth ac ymchwilio i amgylchiadau’r datgeliad.”
Cafodd y wybodaeth ei dynnu o'r wefan lle cafodd ei chyhoeddi, ac mae’r mater wedi ei chyfeirio at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), medden nhw.