Cyfle i bobl Tregaron gael rhoi eu barn ar gynlluniau i godi fferm wynt

Newyddion S4C

Cyfle i bobl Tregaron gael rhoi eu barn ar gynlluniau i godi fferm wynt

Fe fydd pobl ardal Tregaron yng Ngheredigion yn cael cyfle dros y misoedd nesaf i roi eu barn ar gynllun newydd i godi fferm wynt ar gyrion y dref.

Mae'r cwmni ynni Ffrengig sydd y tu ôl i'r cynllun, EDF, yn dweud y gallai'r fferm wynt gynhyrchu digon o drydan i gynnal bron i 150,000 o gartrefi.

Ar y mynyddoedd i'r dwyrain o Dregaron, yn ardal Nant y Maen, y mae cwmni EDF yn bwriadu codi'r melinau gwynt.

Mae EDF bellach wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ceredigion i gael gosod offer ar y tir i fesur cyflymder y gwynt.

Fe fyddai'r tyrbinau i'w gweld ar hyd y llwybr i gyrraedd capel hanesyddol Soar y Mynydd.

Yn ôl EDF, byddai'r cynllun yn fodd i sicrhau ynni glân yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae'r cwmni hefyd yn dweud y byddai'n creu gwaith i nifer o fusnesau Cymreig ac yn cefnogi swyddi o safon.

Ond mae mudiad cadwraeth Cymdeithas Mynyddoedd y Cambria yn pwysleisio bod pobl yn gwerthfawrogi'r tir am ei harddwch naturiol.

Ychwanegodd bod angen i unrhyw felin wynt sy'n cael ei chodi yn yr ardal fod yn "ddigon bach i beidio ag amharu gormod" â'r tirlun unigryw.

Dywedodd Adam Price AS, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: "Ni eisiau gweld Cymru yn cael y budd o'i photensial o ran generadu ynni glân. 

"Mae hwnna'n greiddiol i'n gweledigaeth ni ar gyfer yr amgylchedd, ar gyfer yr economi er mwyn sicrhau bod y budd 'na sydd gyda ni o ran potensial ynni glân yn helpu cymunedau Cymru, yn helpu economi Cymru er mwyn ffynnu - a bod y budd yna i'r graddau sy'n bosib yn aros fan hyn yng Nghymru."

Gyda sawl cynllun tebyg eisoes i'w gael mewn gwahanol rannau o Gymru, fe fydd cyfle i bobl Tregaron ddweud a fydden nhw am weld fferm wynt yn yr ardal.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.