Ysbyty Glangwili: Y ffliw yn achosi i ward arall gau

Scabies a Ffliw Glangwili

Mae ward arall yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi cau yn sgil achosion o’r ffliw, a hynny wrth i ward arall barhau ar gau oherwydd achosion o'r clefyd crafu, neu scabies, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Ward Preseli bellach ar gau, a bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu ddydd Iau.

Daw hynny ar ôl i Ward Steffan gau oherwydd y ffliw ddydd Gwener, 4 Medi. Mae hanner y ward honno bellach wedi ailagor i dderbyn cleifion risg isel, ond mae’r hanner arall yn parhau ar gau.

Mae Ward Cadog, a gaeodd ddydd Gwener, 4 Medi hefyd oherwydd achosion o’r clefyd crafu, neu scabies, yn parhau ar gau.

Bu’n rhaid i Ward Steffan gau i gleifion newydd a throsglwyddiadau ddechrau mis Gorffennaf hefyd oherwydd achosion o’r clefyd crafu. Ailagorwyd yn ddiweddarach yn y mis.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion y bwrdd iechyd, fod Ward Cadog yn parhau ar gau “er mwyn i staff a chleifion gael triniaeth ac i waith glanhau trylwyr arbenigol gael ei wneud”.

“Rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol ac wedi cymryd camau ychwanegol i leihau’r risg o’r haint yn lledaenu,” meddai.

“Mae’r rhain yn cynnwys glanhau ychwanegol, ynysu cleifion pan fo angen, monitro’r sefyllfa’n ofalus, a darparu gofal a thriniaeth i’r cleifion sydd wedi’u heffeithio.

“Mae ein Tîm Atal a Rheoli Heintiau yn gweithio’n agos gyda thimau’r wardiau a rheolwyr yr ysbyty i leihau unrhyw effaith ar wasanaethau ac atal rhagor o ledaenu.”

Bydd adolygiadau’n cael eu cynnal yr wythnos hon i asesu pryd y bydd y wardiau’n gallu ailagor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.