Ymgyrch newydd i adfer adeilad capel Soar y Mynydd ger Tregaron
Mae ymgyrch newydd wedi ei lansio er mwyn adfer ac achub adeilad capel Soar y Mynydd ger Tregaron.
Bwriad y bartneriaeth rhwng aelodau'r capel a chôr Merched Soar yw atgyweirio ac adnewyddu'r adeilad yn dilyn nifer o stormydd dros y gaeaf.
Byddai'r gwaith yn cynnwys atgyweirio’r to, paentio tu allan a thu mewn i’r adeilad, atgyweirio’r tŷ capel a gwaith tirlunio.
Gobaith y grŵp yw codi £50,000 erbyn diwedd y flwyddyn cyn edrych ar opsiynau eraill.
Fe gafodd y capel, sydd wedi ei leoli yng nghanol mynyddoedd Cambria ger Tregaron yng Ngheredigion, ei adeiladu ym 1822 i wasanaethu cymunedau gwledig gwasgaredig.
Un sydd wedi bod yn aelod o gapel Soar y Mynydd ers dros 30 mlynedd yw Margaret Evans a hi yw trysorydd presennol y capel â’i chwaer Lynwen yn ysgrifennydd.
Dywedodd Margaret Evans: "Mae fy nghysylltiad teuluol yn mynd yn ôl i fy nghyndeidiau a bu fy hen dadcu, Zacheus Williams yn flaenor am dros hanner canrif. Rwyf fi a David y gŵr wedi bod yn aelodau ers dros 30 mlynedd ac erbyn hyn mae ein dwy ferch, Gillian a Heather yn aelodau hefyd.
"Mae’n anhygoel faint o ymwelwyr sy’n ffeindio’r ffordd yma o bedwar ban byd, ac mae gweld eu sylwadau yn y llyfr ymwelwyr yn rhoi modd i fyw i fi ac yn dangos pa mor arbennig yw’r capel."
Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio mewn gwasanaeth arbennig yng nghapel Soar ddydd Sul a fydd yn cael ei arwain gan gôr Merched Soar.
Mae’r côr yn dathlu degawd o ganu eleni a dywedodd arweinydd y côr, Carys Mai: "A ninnau’n dathlu carreg filltir arbennig eleni, roedden ni’n awyddus iawn i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
"Does dim amheuaeth fod Capel Soar y Mynydd yn un o’r lleoliadau mwyaf hudol ac unigryw yng Nghymru ac felly ry’n ni’n falch iawn o lansio’r ymgyrch hon heddiw gydag aelodau’r capel ynghyd â’r cyfle i gynnal oedfa i agor tymor y Capel.
"Dwi’n gobeithio bydd y gymuned gyfan ac unrhyw un dros y byd sydd â chysylltiad â Soar yn cefnogi’r ymgyrch ac yn rhoi yn hael."