Rhybudd am dywydd poeth eithafol ar gyfer bron pob rhan o Gymru yr wythnos nesaf
Mae rhybudd oren am "dywydd poeth eithafol" wedi ei ymestyn ar gyfer bron pob rhan o Gymru yr wythnos nesaf.
Roedd rhybudd eisoes mewn lle yn ne-ddwyrain a chanolbarth Cymru ddydd Llun a Mawrth ond mae bellach wedi ei ymestyn i'r gorllewin a'r gogledd ddydd Mercher ac Iau.
Fe allai achosi "salwch difrifol posibl neu berygl i fywyd," meddai'r Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhybudd cyntaf mewn grym rhwng 01:00 fore Llun a 23:59 ddydd Mawrth yr wythnos nesaf.
Mae’r rhybudd wedi ei ymestyn i 12 o siroedd yn nwyrain Cymru.
Mae'r rhybudd yn benodol ar gyfer ardaloedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.
Mae'r Swyddfa Dywydd bellach hefyd wedi cyhoeddi ail rybudd oren rhwng 00:00 ddydd Mercher tan 23:59 ddydd Iau i bob sir yng Nghymru heblaw am Sir Benfro.
Mae rhagolygon yn awgrymu y gallai'r tymheredd gyrraedd 35C mewn rhai ardaloedd o'r wlad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y bydd y tymheredd hefyd yn cyrraedd dros 20C dros nos.
Rhybuddiodd y gallai rhai pobl ddioddef problemau iechyd o ganlyniad i'r tywydd poeth, gan rybuddio pobl yn benodol o beryglon fel llosg haul a syched eithafol.
Mae'n bosib y bydd oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.