Top Gear i ddychwelyd i’r BBC wedi damwain ddifrifol Freddie Flintoff

Llun: BBC
Top Gear

Bydd Top Gear yn dychwelyd i’r BBC, mae'i cyfarwyddwr adloniant Ed Havard, wedi cadarnhau.

Fe wnaeth Mr Havard gadarnhau’r newyddion yng Ngŵyl Deledu Caeredin ddydd Iau.

Nid oes dyddiad darlledu na chyflwynwyr wedi eu cyhoeddi hyd yma.

Cafodd Top Gear ei dynnu oddi ar yr awyr ar ôl i un o’r cyflwynwyr, Andrew “Freddie” Flintoff, gael ei anafu’n ddifrifol mewn damwain wrth ffilmio ym mis Rhagfyr 2022.

Dioddefodd cyn-gapten tîm criced Lloegr anafiadau difrifol i’w wyneb, ac fe dorrodd ei asennau ar ôl i’r car Morgan tair olwyn yr oedd yn ei yrru droi drosodd ar drac prawf Dunsfold yn Surrey.

Ym mis Tachwedd 2023, dywedodd y BBC y byddai’r rhaglen yn cael ei rhoi o’r neilltu am y tro. Fe wnaeth BBC Studios ymddiheuro i Flintoff a dod i gytundeb ariannol ag ef, oedd werth tua £9 miliwn yn ôl adroddiadau. 

Mewn rhaglen ddogfen yn 2025, fe wnaeth Flintoff feirniadu’r pwysau ym myd teledu i greu styntiau mwy peryglus er mwyn denu gwylwyr.

Dywedodd fod pobl ym myd teledu a chwaraeon yn gallu cael eu trin fel “nwydd” neu “ddarn o gig”.

Dywedodd ei gyd-gyflwynydd Chris Harris ei fod wedi rhybuddio’r BBC am ddiogelwch y rhaglen cyn y ddamwain. Daeth ymchwiliad annibynnol i’r casgliad bod BBC Studios wedi dilyn polisïau’r BBC ac arferion y diwydiant, ond bod gwersi pwysig i’w dysgu.

Flintoff, Chris Harris a Paddy McGuinness oedd cyflwynwyr y gyfres ddiwethaf o Top Gear, a gafodd ei darlledu yn 2022.

Image
Jimmy Carr
Jimmy Carr

Mae’r cadarnhad yn dilyn adroddiadau bod y digrifwr Jimmy Carr mewn trafodaethau i fod yn rhan o dîm cyflwyno newydd y rhaglen.

Yn ôl Radio Times, roedd BBC Studios yn agos at ddod i gytundeb â’r digrifwr 53 oed, ond nid yw ei ran yn y rhaglen wedi ei chadarnhau.

Dywedodd BBC Studios yn gynharach yr wythnos hon nad oedd ganddo ddiweddariad am y rhaglen ac nad oedd yn gwneud sylwadau am ddyfalu.

Mae Carr yn hoff iawn o geir ac fe ymddangosodd ar Top Gear yn 2004, gan gofnodi’r amser cyflymaf ar y pryd ar restr lapiau enwogion y rhaglen.

 

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.