Teyrnged i leian 87 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teyrnged wedi ei rhoi i leian 87 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad.
Cafodd swyddogion eu galw i wrthdrawiad rhwng cerddwr a char ar Rodfa Stow Park yng Nghasnewydd am tua 15:55 ar ddydd Mawrth 24 Chwefror.
Cafodd menyw 87 oed o Gasnewydd ei chludo i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach.
Mae'r heddlu bellach wedi cyhoeddi mai y Chwaer Genevieve, Anne Clanchy gynt, oedd y fenyw a fu farw.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei chyd-chwiorydd yn y lleiandy: "Fe ddysgodd hi mewn sawl ysgol, gan dreulio blynyddoedd lawer fel pennaeth Ysgol St. Winifred, Lee, yn ne Llundain.
"Yn ei hymddeoliad, fe wnaeth y Chwaer Genevieve ddychwelyd i'w hardal frodorol sef Chatham yng Nghaint cyn symud yn ddiweddarach i Devizes yn Wiltshire.
"Yno, roedd hi'n mwynhau bod yn rhan o gymaint o weithgareddau'r plwyf, gan wneud llawer o ffrindiau.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd yn byw yng Nghasnewydd gan barhau i estyn allan at eraill drwy'r grwpiau lleol y gwnaeth hi ymuno â nhw."
Ychwanegodd y deyrnged: "Mae marwolaeth sydyn y Chwaer Genevieve yn sioc i'r chwiorydd ac i bawb oedd yn ei hadnabod.
"Bydd yn cael ei chofio am ei charedigrwydd mawr i bawb y gwnaeth hi gyfarfod â nhw, ei diddordeb ynddyn nhw a'u bywydau, ei chariad at fywyd a'i ffydd dawel, ddofn."
