Sir Gâr: Disgyblion anghenion arbennig yn creu hanes gyda thaith rafftio 'fythgofiadwy'

Ysgol Heol Goffa yn rafftio
Mae criw o ddisgyblion o ysgol anghenion arbennig yn Sir Gâr wedi torri tir newydd drwy gwblhau taith rafftio "fythgofiadwy" yn yr Alban.
 
Fe aeth y grŵp o wyth o Ysgol Heol Goffa, Llanelli, gyda staff ar alldaith bedwar diwrnod i lawr afon Tay ym mis Mehefin fel rhan o gynllun Rhaglen Aur Gwobr Dug Caeredin. 
 
Credir mai dyma’r tro cyntaf i ysgol arbennig o Gymru gwblhau her o’r fath.
 
Bu'n rhaid i'r criw rafftio am 30 cilomedr ar yr afon mewn amgylchiadau amrywiol, gan gynnwys dŵr byrlymus. Un o uchafbwyntiau’r daith, meddai’r disgyblion, oedd gweld afancod gwyllt yn nofio wrth ochr y cwch a gwiwerod coch yn y coed.
Image
Fe wnaeth y disgyblion rafftio am 30 cilomedr
Fe wnaeth y disgyblion rafftio am 30 cilometr

Dywedodd yr athro mewn gofal, Peter Welton, fod teithiau fel hyn yn ehangu profiadau a sgiliau’r disgyblion yn eithriadol. 
 
“Mae'r disgyblion wedi bod yn gweithio'n frwdfrydig ar eu medrau gwasanaethu, gwirfoddoli a gweithgareddau corfforol trwy amrywiaeth eang o gyfleoedd yn yr ysgol," meddai. 
 
"Mae'r rhain wedi cynnwys profiad gwaith, gweithgareddau cymunedol, coginio, pêl-droed, rygbi a sgïo. Mae hyn i gyd yn galluogi’r disgyblion i ddatblygu annibyniaeth, gwydnwch, gwaith tîm ac hyder mewn sefyllfaoedd go iawn."

Ychwanegodd bod yr ysgol yn edrych i gynnig mwy o gyfleon tebyg i'w disgyblion o hyn ymlaen.
 
"Roedd y profiad yn yr Alban yn cynnwys yr alldaith rafftio gyntaf erioed o'i bath, rhywbeth sy'n arwain y maes ac yn garreg filltir bwysig i'r rhaglen," meddai.
 
"Ein nod nawr yw adeiladu ar y llwyddiannau hyn trwy gynnig teithiau alldaith Efydd ac Arian y flwyddyn nesaf, gan barhau i ehangu cyfleoedd a chodi dyheadau'r holl ddisgyblion."
Image
Heol Goffa
Disgyblion, staff ac arweinwyr alldaith rafftio Ysgol Heol Goffa ar Afon Tay

Bythgofiadwy

Arweiniwyd y daith gan arbenigwyr o Llandysul Paddlers, canolfan gweithgareddau awyr agored yn y de-orllewin.
 
"Ychydig ddyddiau bythgofiadwy ar Afon Tay yn yr Alban, yn cefnogi disgyblion a staff anhygoel Ysgol Heol Goffa ar eu taith Gwobr Dug Caeredin," meddai Llandysul Paddlers.
 
"Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Heol Goffa ers nifer o flynyddoedd, ac ar ôl pob taith rydym yn meddwl sut y gallai'r nesaf fod hyd yn oed yn well. Ond rhywsut, maen nhw bob amser yn llwyddo i wneud hynny.
 
"Nid taith yn unig oedd hon – antur oedd hi, yn llawn penderfyniad, gwydnwch, chwerthin, gwaith tîm ac eiliadau a fydd yn aros gyda phawb a gymerodd ran am flynyddoedd i ddod.
 
"Fe wnaeth y disgyblion ein hatgoffa ni pam fod Heol Goffa yn ysgol mor rhyfeddol. Roedd eu hagwedd, eu hysbryd a'u parodrwydd i wynebu pob her yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae treulio amser gyda'r grŵp hwn yn fraint bob tro.
 
"Mae rhai teithiau'n gofiadwy, ond roedd hon yn un fythgofiadwy."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.