Rhys Meirion yn gwireddu dymuniad Mike Peters gyda chân Gŵyl Ddewi
Mae'r canwr clasurol Rhys Meirion wedi gwireddu dymuniad y canwr roc diweddar Mike Peters gyda chân Gŵyl Ddewi.
Bu farw Mike, prif leisydd y band The Alarm, yn 66 oed y llynedd, ond fis cyn ei farwolaeth fe ofynnodd i Rhys greu fersiwn Gymraeg o’i gân St David’s Day.
Cafodd y gân wreiddiol ei chyfansoddi gan Mike ar gyfer y sioe gerdd Flesh and Blood a gafodd ei pherfformio yn Theatr y Sherman yn 1999.
Bydd y rhaglen Neges Olaf Mike Peters ar S4C yn dilyn her Rhys i wireddu breuddwyd Mike ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae'r trac yn cael ei recordio yn Stiwdio Sain, gyda meibion Mike - Dylan ac Evan - yn rhan o’r recordiad.
Mae Rhys hefyd yn cael cymorth Osian o’r Candelas ac Aled, basydd Cowbois Rhos Botwnnog, yn ogystal â Chôr Meibion Trelawnyd.
Dywedodd Rhys bod Mike yn "dipyn o arwr" iddo.
"Dros y blynyddoedd, o’n i a Mike wedi dod yn dipyn o ffrindiau, ar ôl i’n llwybrau ni groesi ar sawl achlysur, sydd ella’n anghyffredin i ganwr clasurol fel finnau, a chanwr roc fel Mike," meddai.
"Roedd Mike wedi bod yn brwydro canser am dros 30 o flynyddoedd, ac er hynny, roedd ganddo wastad wên ar ei wyneb, a hynny’n ysbrydoliaeth mawr i finnau pan ges i ddiagnosis o ganser fy hun."
Ychwanegodd Jules Peters, gwraig Mike, y bydd clywed y gân yn brofiad "emosiynol".
"Dwi ddim yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl, ond dwi’n edrych ymlaen iddo," meddai.
"Mae St David’s Day yn gân emosiynol ar y gorau a phryd bynnag dwi’n ei chlywed hi, mae hi wastad yn gwneud i mi grio, mae ‘na rywbeth ym mhatrwm y cordiau. Dwi’n gobeithio bod rhai hancesi wrth law pan dwi’n ei chlywed hi ‘nôl."
Yn enedigol o Brestatyn, ac wedi ei fagu yn Y Rhyl, daeth Mike i amlygrwydd am y tro cyntaf yn y 1980au cynnar gyda The Alarm.
Fe lwyddodd The Alarm i ddenu dilynwyr rhyngwladol ffyddlon, gyda llais cryf a phresenoldeb Mike Peters ar y llwyfan yn ganolog i’w llwyddiant.
Yn ystod gyrfa gerddorol dros bum degawd, perfformiodd Peters gyda rhai o artistiaid a bandiau mwyaf y byd gan gynnwys Bob Dylan, Bruce Springsteen ac U2.