'Problemau sylweddol': Pryderon am gyflwr Addysg Grefyddol mewn ysgolion

Newyddion S4C

'Problemau sylweddol': Pryderon am gyflwr Addysg Grefyddol mewn ysgolion

Mae pryderon wedi’u codi am gyflwr addysg grefyddol yng Nghymru - gydag arbenigwyr o un Prifysgol yn dweud bod "problemau sylweddol" yn y ddarpariaeth dysgu mewn ysgolion. 
 
Daw hyn yn dilyn adroddiad diweddar gan y corff arolygu Estyn, oedd yn nodi diffyg cydbwysedd a dyfnder mewn gwersi, a phrinder staff sydd â arbenigedd yn y maes. 
 
Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi cyhoeddi datganiad yn ymateb i adroddiad gan y pwyllgor arolygu addysg, Estyn, a amlygodd bryderon sylweddol.
 

Yn ôl yr adroddiad, Datblygu maes dysgu a phrofiad (MDaPh) y Dyniaethau, a oedd yn seiliedig ar arolygiadau a gynhaliwyd rhwng 2024 a 2025, roedd amrywiaeth fawr yn y modd y mae’r dyniaethau’n cael eu dysgu mewn ysgolion. 

Dywed y pwyllgor fod crefydd, gwerthoedd a moeseg “yn arbennig wedi’u tangynrychioli”, gyda “diffyg dysgu proffesiynol penodol i’r pwnc yn cyfyngu ar ddatblygiad staff.” 

Yn ogystal, mae prinder staff arbenigol a gallu cyfyngedig i ddefnyddio cyfleoedd cyfoethogi’n cael effaith negyddol ar brofiadau disgyblion.

'Pryder difrifol'
 
Mewn datganiad, mynegodd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru “bryder difrifol”, gan ychwanegu bod y “canfyddiadau’n cyflwyno darlun clir ac anesmwyth”.

Mae'r ganolfan hefyd yn rhybuddio: “Yn anochel, mae amser cwricwlwm cyfyngedig yn cyfyngu ar y dyfnder, y cydlyniad a’r uniondeb disgyblaethol y mae gan ddysgwyr hawl i’w profi. Mae arolygwyr hefyd yn sylwi nad yw dysgwyr yn cael eu cefnogi i ymgysylltu'n ystyrlon â chymhlethdod.”
 
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd un o Gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, Dr Gareth Evans-Jones: "Mae yna lai a llai o athrawon crefydd a gwerthoedd moeseg ac astudiaethau crefyddol, mae yna lai yn mynd i hyfforddi i fod yn athrawon.
 
“Mae’n dibynnu wedyn hefyd wrth gwrs ynghylch sut mae’r ysgolion yn unigol yn i ba raddau mae’r uwch dîm rheoli yn rhoi amser digonol i’r pwnc, oes yna ddealltwriaeth yn fewnol ta oes yna dal y rhagfarn sy’n bodoli gan rai, nid ysgolion fel y cyfryw; ond rhai pobol mai cwrs ‘Mickey Mouse' ydi crefydd a gwerthoedd moeseg, lle mewn difri nid dyna ydi o."
 
Draw yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam mae yna frwdfrydedd at y pwnc, gyda’r niferoedd sy'n astudio addysg grefyddol yn weddol gyson yn ôl yr athrawon.  
 
Eleni, mae pedwar disgybl Lefel A ac wyth yn dilyn y cwrs TGAU, gyda deg disgybl wedi dewis y pwnc ar gyfer TGAU fis Medi.
Image
Pennaeth Addysg Grefyddol, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Aimie Williams-Burn
Pennaeth Addysg Grefyddol, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Wrth ymateb i’r pryder gan rai fod Addysg Grefyddol yn bwnc ymylol dywedodd Aimie Williams-Burn, Pennaeth Addysg Grefyddol, Ysgol Morgan Llwyd: "'Da ni wastad wedi cael chwarae teg o ran opsiynau a chynnig y cwrs lefel A.
 
“Er efallai fod gennym ni niferoedd bach, 'da ni wastad yn derbyn disgyblion sydd wir isio  neud y pwnc ac yn angerddol  gan wybod yn union be ma nhw isio ei wneud yn y dyfodol.
 
“Mae gennym ni ddisgyblion sydd isio mynd i weithio fel cyfreithwyr, gwaith llys, doctoriaid ac maen nhw’n gweld fod yna werth yn y pwnc." 
 
“I fi tydi o erioed wedi bod yn bwnc hen ffashiwn, ond da ni yn trio neud o mor gyfredol ac yn berthnasol o oedran blwyddyn 7 hyd at Lefel A.”
 
Image
Catrin Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Catrin, Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Yn ôl Catrin sy’n dilyn Astudiaethau Crefyddol fel pwnc Lefel A does na ddim digon o ddealltwriaeth am gynnwys y pwnc. 
 
“Pawb yn meddwl bo ni jest yn astudio Iesu. meddai. “Dwi’n meddwl mai jest camsyniad o beth yn union ydi’r pwnc ydi’r broblem fwyaf.”
 
“Mae chwaer fi yn Blwyddyn 9 a dwi wedi bod yn gwthio hi i neud Addysg Grefyddol, ond dydi hi ddim yn cael dim ohonyfo.”
 
“Mae pawb yn gofyn i ni, ydach chi’n grefyddol?”  meddai Ariana sydd â’i bryd ar fynd i astudio gradd mewn athoniaeth ym Mhrifysgol Manceinion. 
 
“Oes, mae rhai pobol yn grefyddol, ond does dim rhaid.”
 
“Mae’r pwnc jyst yn dod a lefel dyfnach a dealltwriaeth o bob dim dachi’n neud yn eich bywyd." 
Image
Ariana Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Ariana, Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
 
Mae Angharad o Langollen yn gobeithio mynd i astudio diwynyddiaeth ym Mhrifysgol Durham, ac yn dweud fod astudio Addysg Grefyddol yn gymorth i ddeall am y byd a’i bobol. 
 
"Yn bersonol dwi yn grefyddol, ond dwi actualy really yn mwynhau cael dealltwriaeth gwahanol  o bethau.” meddai. 
 
“'Da ni’n astudio Bwdïaeth ar y funud, ac mae o mor dda i weld pa mor wahanol  ydi eu syniadau nhw i’r ffyrdd traddodiadaol 'da ni’n wybod amdanyn nhw.
 
“Mae o mor bwysig ein bod ni’n gwybod fod yna fwy nag un ffordd o feddwl."
Image
Angharad, Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Angharad, Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.