Pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd tân yn ne Cymru
Mae sawl person wedi gorfod gadael eu cartrefi o ganlyniad i dân yn Nhreharris.
Bu'n rhaid i bobl adael eu tai wedi tân ar Stryd Victoria yn y dref brynhawn dydd Sul.
Cafodd swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw am 15:21 ac mae criwiau o orsafoedd Aberbargoed, Pontypridd, Merthyr Tudful a Maendy yn bresennol.
Mae Stryd Mary a Stryd Thomas wedi eu cau ac mae'r gwasanaeth tân yn argymell trigolion i gadw eu ffenestri a drysau ar gau tra bod swyddogion yn ceisio mynd i afael â'r tân.
Maen nhw hefyd yn annog pobl i osgoi'r ardal.
Mae cymylau mawr o fwg i'w gweld yn amlwg yn yr ardal ac mae'r gwasanaeth yn disgrifio'r digwyddiad fel un "ar raddfa fawr."

